|
Cyflawnwyd adeilad newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Y Senedd, fwy neu lai ar amser, ac yn unol â'r gost a'r ansawdd disgwyliedig unwaith yr ailddechreuwyd y prosiect yn 2002, yn ôl adroddiad newydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu'r adroddiad fod Llywodraeth y Cynulliad a thîm y prosiect yn gweithio'n effeithiol, ar y cyfan, a'u bod yn cyflawni'r amcanion a bennwyd. Er y cwblhawyd y Senedd chwe mis yn ddiweddarach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol, yn bennaf oherwydd problemau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), ni chafodd yr oedi hwn unrhyw ganlyniadau negyddol ar weithrediadau'r Cynulliad Cenedlaethol. Cost alldro derfynol y prosiect oedd £70 miliwn, yn erbyn yr amcangyfrif diwygiedig o £66 miliwn.
Edrychodd adroddiad heddiw, Y Senedd, ar b'un a oedd Llywodraeth y Cynulliad wedi rheoli'r broses gaffael yn dda ar ôl ailddechrau'r prosiect. Bu problemau dirifedi a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd yn ystod cam cyntaf y prosiect, o 1997 i 2001 - yn ymwneud â chostau cynyddol ac oedi. Y cynnydd hwn oedd y prif reswm dros benderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i ddiswyddo'r pensaer sef Partneriaeth Richard Rogers. Archwiliwyd cam cyntaf y prosiect yn flaenorol mewn dau adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Lansiwyd ail gam y prosiect yn 2002 - gyda therfyn amser o Awst 2005. Fodd bynnag, cwblhawyd adeilad newydd y Senedd ym mis Chwefror 2006, ryw chwe mis yn ddiweddarach na'r bwriad. Roedd hyn yn bennaf oherwydd problemau TGCh, megis oedi wrth ddatblygu rhagfanylion a oedd angen, ac hefyd gan ystyried roedd Merlin, sef system TGCh newydd y Cynulliad, yn cael ei gaffael ar yr un pryd. Dysgodd Llywodraeth y Cynulliad wersi o gam cyntaf y prosiect ac o brosiectau adeiladu cyhoeddus mawr eraill - megis adeilad Senedd yr Alban a Neuadd y Ddinas yn Llundain. Cymerodd amser i gynllunio ffordd ymlaen ac, yn unol â chyngor arbenigwyr ym maes eiddo ac adeiladu, mabwysiadodd Llywodraeth y Cynulliad weithdrefn caffael ar gyfer cynllunio ac adeiladu am bris sefydlog. Dewisodd gonsortiwm a arweiniwyd gan Taylor Woodrow (a oedd yn cynnwys Partneriaeth Richard Rogers) i adeiladu'r Senedd. Cyflwynodd Llywodraeth y Cynulliad strwythur newydd hefyd ar gyfer llywodraethu a rheoli prosiectau.
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer prosiectau caffael ac adeiladu yn y dyfodol. Ymhlith y rhain:
- dylai Llywodraeth y Cynulliad, mewn caffaeliadau mawr o'r fath, sicrhau bod y fanyleb yn ddigon manwl - o ran systemau integredig, cyfleusterau a gofynion o ran lle - er mwyn lliniaru'r potensial am newidiadau pellach ac oedi ar ôl i gontract gael ei lofnodi;
- dylai Llywodraeth y Cynulliad ffurfioli'r gwersi a ddysgwyd a'u hymgorffori yng ngweithdrefnau gweithredol y sefydliad;
- dylai Comisiwn y Cynulliad barhau i fonitro a llunio adroddiadau rheolaidd ar berfformiad yr adeilad er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn parhau i gyrraedd safonau o ran yr amgylchedd a chynaliadwyedd.
Heddiw dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman: "Stori lwyddiant yw hon. Mae'n amlwg i ail gam y prosiect i adeiladu'r Senedd gael budd o wersi a ddysgwyd yn ystod cam cyntaf y prosiect. Oherwydd prosesau newydd, rhagolygon ariannol llymach a gwaith gwell ym maes rheoli prosiectau, crëwyd, yn llwyddiannus, bencadlys y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Gobeithio y bydd fy argymhellion yn sicrhau y bydd y gwersi pwysig hyn yn dylanwadu ar brosiectau tebyg yn y dyfodol."
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae'r adroddiad hwn yn ystyried p'un a oedd Llywodraeth y Cynulliad wedi rheoli'r gwaith o gaffael adeilad y Senedd yn dda ar ôl ailddechrau'r prosiect yn 2002.
- Mae'r adroddiad yn cwmpasu ail gam y prosiect, o'r amser yr ailddechreuodd Llywodraeth Cynulliad Cymru'r prosiect, gyda threfniadau diwygiedig ar gyfer rheoli'r prosiect a llwybr caffael gwahanol, hyd at amser agor yr adeilad yn 2006.
- Bu cam cyntaf y prosiect yn destun dau adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trefniadau Adeiladau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Tachwedd 2000 ac Adeilad Newydd y Cynulliad Cenedlaethol: y sefyllfa ddiweddaraf, Tachwedd 2002.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da.
- Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1 Ebrill 2005 ar ôl pasio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
|