Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Arolygiad o Gymdeithas Tai Eryri yn dangos perfformiad cymysg
12/06/2008
Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod rhai o’r gwasanaethau a gynigir gan Gymdeithas Tai Eryri yn rhai o safon da neu foddhaol, ond bod yna le mawr i wella o fewn hanner y gwasanaethau a archwiliwyd ac nad oedd y gweithdrefnau presennol yn debygol o sicrhau bod y gwelliannau angenrheidiol hynny yn cael eu cyflawni.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi’r berthynas da cyffredinol rhwng y Gymdeithas Tai, ei thenantiaid a’r Cynghorau lleol. Roedd y tenantiaid o’r farn bod y gwasanaeth yn ‘gyfeillgar’ a bod y Gymdeithas wedi gweithio gyda Chynghorau ar ystod eang o brosiectau er mwyn cryfhau eu cymunedau, megis apwyntio Galluogwr Tai Gwledig. Yn ogystal, roedd system y Gymdeithas ar gyfer neilltuo tai yn deg ac yn gytbwys. Mae Tai Eryri hefyd wedi gweithio i sicrhau bod ystadau yn ddiogel ac yn ddymunol, gan helpu tenantiaid oedd wedi profi ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Fodd bynnag, roedd y Gymdeithas wedi profi problemau wrth sicrhau bod y tai gweigion yn cael eu llenwi cyn gynted ag oedd yn bosib, ac ymddengys bod yr amser yr oedd hi’n ei gymryd i feddiannu tai yn parhau i gynyddu. Ni chafodd y rhaglenni cynnal a chadw cyson eu rheoli’n effeithlon, ac nid oedd trefniadau ar gyfer adfer rent a helpu tenantiaid i osgoi dyled yn weithredol. Roedd angen i’r Gymdeithas hybu mwy o gyfranogiad o’u tenantiaid, ond nid oedd ganddi gynllun clir er mwyn gwireddu hynny. Roedd yr wybodaeth a ddarparwyd gan denantiaid yn gyfyng a pheth ohoni yn hen, ac nid oedd y Gymdeithas yn gwneud digon i hyrwyddo cydraddoldeb cyfleoedd. Er bod y Gymdeithas wedi sylweddoli bod angen iddi wella ei pherfformiad, nid oedd ganddi’r wethdrefnau cedyrn i sicrhau ei bod hi’n bosib iddi wneud hyn.

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, yr Archwilydd Cyffredinol yng Nghymru:
”Mae’n rhaid i’r Gymdeithas flaenoriaethu sefydlu trefniadau cadarn er mwyn sicrhau cynnydd cyffredinol yn ei busnes, ac yn y meysydd penodol a amlygwyd gan yr Arolygwyr.”

Sylwadau i Olygyddion:

  • Fe gynhaliwyd yr arolygiad ar Gymdeithas Tai Eryri ym mis Ionawr 2008. Mae’r Gymdeithas yn rheoli oddeutu 1800 o dai, yn bennaf yng Ngwynedd ac ar Ynys Môn.
  • Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1978 ac mae ganddi 71 aelod o staff mewn dwy swyddfa ym Mhenygroes a Llangefni.
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi apwyntio Swyddfa Archwilio Cymru i weithredu arolygiadau o gymdeithasau tai yng Nghymru. Gweithredir yr arolygiadau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
  • Mae’r cwestiynau penodol am bob agwedd o’r arolygiad wedi eu gosod allan yn y fersiwn diweddaraf o God Rheoleiddio’r Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i’r wybodaeth drwy glicio’r cyswllt gwe canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/
    regulatorycodehas;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=en
  • Daw pob adroddiad arolygu tai gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghyd ag adroddiad byrrach a chryno, a ddosberthir i denantiaid y Gymdeithas Tai. Ysgrifennwyd y ‘crynodeb o ganfyddiadau’ gan Gynghorydd Arolygu Tenantiaid. Mae Cynghorwyr Arolygu Tenantiaid yn denantiaid a gyflogir gan Swyddfa Archwilio Cymru i gynnig perspective defnyddwyr gwasanaethau a helpu
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar lywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio cyhoeddus gwerth £19 biliwn o wariant cyhoeddus.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a ehangodd swyddogaethau yr Archwilydd Cyffredinol yng Nghymru gan alluogi trosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Cenedlaethol i’w gyflogaeth ef.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Helen Keatley ar 02920 320518 neu e-bostiwch helen.keatley@wao.gov.uk.

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru