Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn gwella, ond mae yna heriau i’w hwynebu
24/06/2008
Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi’r adroddiad dilynol ar Ymddiriedolaeth GIG Y Gwasanaeth Ambiwlans
Ar ôl iddo gyhoeddi adroddiad archwilio estynedig ar Ymddiriedolaeth GIG Y Gwasanaeth Ambiwlans yn 2006, mae’r Archwilydd Cyffredinol heddiw yn cyhoeddi adroddiad dilynol sy’n cyfrannu at adolygiad ehangach a fynnwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Daeth yr Archwilydd Cyffredinol at y casgliad y gwnaed peth cynnydd gan y gwasanaeth ambiwlans, ond bod yn rhaid cyfeirio at rai problemau anodd presennol a risgiau yn y dyfodol.

Roedd yr adroddiad gwreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2006, yn crynhoi bod gan y gwasanaeth ambiwlans broblemau difrifol a hirdymor; ond bod ganddo hefyd gryfderau a fydd, dros gyfnod o amser, yn helpu sicrhau gwelliannau i’w wasanaethau.  Gwnaeth yr Archwilydd Cyffredinol 28 o argymhellion i’r gwasanaeth i’w gweithredu.

Roedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn cyfrannu at brosiect ehangach a gynhaliwyd gan Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, a fynnwyd gan Edwina Hart, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a oedd yn ystyried gweithredu argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol a chadernid cynlluniau moderneiddio pum mlynedd yr Ymddiriedolaeth, Amser i Wneud Gwahaniaeth.

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn amlygu gwelliannau sylweddol ond hefyd bod yna rai problemau anodd yn parhau.  Er bod rhai gwelliannau positif wedi eu cyflawni o ran perfformiad ymateb i alwadau yn y mwyafrif o ardaloedd y Byrddau Iechyd Lleol, gyda’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn cymorth ambiwlans i gefnogi ymateb cychwynnol yr Ymddiredolaeth, mae lleiafrif o bobl yn aros am ormod o amser i’r gwasanaethau ambiwlans gyrraedd, ac mae amrywiadau rhanbarthol yn parhau ledled Cymru.  Buddsoddwyd yn sylweddol mewn fflyd newydd ac offer clinigol, a chafwyd cynnydd o ran arweiniad a llywodraethu o fewn yr Ymddiriedolaeth.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol dros Gymru, Jeremy Colman: “Gwelsom welliannau cadarnhaol o fewn yr Ymddiriedolaeth drwy weithredu’r mwyafrif o’m hargymhellion a chamau gweithredu cychwynnol yng nghynllun moderneiddio’r Ymddiriedolaeth.  Serch nad yw rhai agweddau o’r perfformiad yn rhai boddhaol, ystyriwn fod y problemau anodd hyn yn ddisgwyledig deunaw mis i mewn cynllun pum mlynedd o ddiwygio sylweddol. 

Mae’r problemau hyn yn cynnwys morâl isel ymhlith y staff a phroblemau gydag ansawdd y rheolaeth; colli’r gallu i weithredu oblegid amseroedd gweithroad gormodol criwiau ambiwlans mewn ysbytai; a’r sgôp i barhau i wella effeithiolrwydd y modd mae’r Ymddiredolaeth yn paru cyflenwad â galw.  Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn pwysleisio’r angen i’r Ymddiriedolaeth reoli cyfres o risgiau yn y dyfodol, sy’n cynnwys cyfres o risgiau ariannol a’r angen i weithio gyda phartneriaid i wneud y system gyfan o waith gofal sydd heb ei amserlennu i weithio’n fwy effeithiol.

Ychwanega’r Archwilydd Cyffredinol “Rwy’n croesawu adroddiad y Cadeirydd, ac roedd yn bleser cael cyfrannu ato. Yn wir, mae’r gwasanaeth ambiwlans yn gwella, ond eto i gyd yn teimlo’n waeth.  Mae’n galonogol gallu canfod gwelliannau yn y gwasanaeth, ond mae’n hanfodol sylweddol y byddai’n cymryd mwy o amser i wella’r Ymddiriedolaeth yn gyffredinol.  Mae nawr yn hanfodol bod yr Ymddiriedolaeth yn cymryd camau gweithredu cadarn i gyfeirio at yr heriau allweddol mae’n ei wynebu, megis gwella morâl ei weithlu a’r rôl sydd ganddynt yn y broses o foderneiddio.  Bydd camau gweithredu ar y 16 o argymhellion y gwnes i ar y cyd gyda’r Grwp Adolygu yn rhan bwysig o’r proses hwn”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Ym mis Gorffennaf 2006, yn dilyn pryder cyhoeddus am Ymddiriedolaeth GIG Y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru, estynodd y Cynulliad Cenedlaethol wahoddiad i Jeremy Colman, yr Archwilydd Cyffredinol, i gynnal ymchwiliad i wasanaethau ambiwlans yng Nghymru. 
  • Diben yr ymchwiliad oedd cadarnhau natur a difrifoldeb y problemau gyda’r gwasanaeth ambiwlans.  Roedd yr ymchwiliad hefyd yn canolbwyntio’n gryf ar y dyfodol a’r cynlluniau oedd yn cael eu datblygu gan y Prif Weithredwr newydd i wella gwasanaethau ambiwlans i bobl Cymru.  Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2006 a dynnodd ynghyd gwaith ar y cyd gydag Arolygiaeth Iechyd Cymru, a gynhaliodd adolygiad o lywodraethu clinigol, gwasanaethau gofal cleifion a gwaith ymchwiliadol penodol i asesu’r honiad bod dull y gwasanaeth ambiwlans o weithredu wedi achosi marwolaethau dianghenraid 500 o bobl.
  • Ym Mis Chwefror 2008, estynnodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wahoddiad i Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Stuart Fletcher, er mwyn cynnal adolygiad er mwyn asesu:
  • cynnydd o dan yr argymhellion hyn;
  • cadernid cynllun moderneiddio pum mlynedd yr ymddiriedolaeth;
  • cynnydd o dan y camau gweithredu a nodwyd yn y cynllun moderneiddio; ac
  • Effeithiolrwydd rheoli heintiadau a glanweithdra mewn ambiwlansys.
  • Cyfrannodd Swyddfa Archwilio Cymru at adolygiad y Cadeirydd drwy asesu gallu’r Ymddiriedolaeth i ddarparu’r gwelliannau a oedd yn ofynnol gan adroddiad adroddiad ymchwilio yr Archwilydd Cyffredinol a chynllun moderneiddio’r Ymddiriedolaeth ei hun, Amser i Wneud Gwahaniaeth.  Cefnogwyd y Grwp Adolygu gan David Galligan o UNISON a’r Athro Morton Warner, arbenigwr academig annibynnol ar reolaeth gwasanaethau iechyd.

     

    •  Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 1998 drwy uno pump o wasanaethau ambiwlans rhagflaenol.  Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflogi bron i 2,500 o staff gyda throsiant o dros £111 miliwn yn 2006/07.
    • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar lywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio cyhoeddus gwerth £19 biliwn o wariant cyhoeddus. 
    • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a ehangodd swyddogaethau yr Archwilydd Cyffredinol yng Nghymru gan alluogi trosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Cenedlaethol i’w gyflogaeth ef.

    Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Helen Keatley ar 02920 320518 neu e-bostiwch helen.keatley@wao.gov.uk

    << Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

    Swyddfa Archwilio Cymru
    24 Heol y Gadeirlan
    Caerdydd
    CF11 9LJ

    Ffôn: 029 2032 0500
    Ffacs: 029 2032 0600
    Ebost: info@wao.gov.uk

    © Archwilydd Cyffredinol Cymru