Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Canllaw newydd yn cael ei lansio i fynd i’r afael â chostau cynyddol fflydoedd yng Nghymru
14/07/2008
Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi cam nesaf y Gyfnewidfa Arfer Da
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi lansio’r cyfnod nesaf o’i chanllaw arfer da er mwyn helpu sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud yn fawr o’u fflydoedd, gan gynnwys ceir sydd wedi eu prynu, eu llogi, lorïau a cherbydau argyfwng. 

Cliciwch yma i weld y canllaw ar reolaeth fflyd.
Cliciwch yma i weld y pamffled ar reolaeth fflyd.

Bob blwyddyn, caiff £200 miliwn ei wario ar reoli fflydoedd cerbydau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da – Rheolaeth Fflyd yn system ar-lein defnyddiol ar gyfer y rheiny sy’n ymwneud ag unrhyw agwedd o reolaeth fflyd.  Mae’n cynnig arweiniad ar strategaeth fflyd, ynghyd â chaffael, cynnal a chadw, rhedeg a gwerthu cerbydau. Gall sefydliadau fanteisio ar weithgynhyrchu uwch, costau is, a llai o effaith ar yr amgylchedd.

Datblygwyd y canllaw Rheolaeth Fflyd yn dilyn gwaith archwilio ar 50 o feysydd, gan gynnwys awdurdodau lleol, gwasanaethau argyfwng ac ymddiriedolaethau GIG.  Cynhaliwyd cyfres o asesiadau archwilio, cyfweliadau a chyfarfodydd, a chyhoeddwyd adroddiadau unigol ar bob sefydliad. Mae enghreifftiau o’r ymarfer da a ganfuwyd yn awr wedi’u cynnwys yn y Canllaw Rheolaeth Fflyd. Mae’r wybodaeth hon wedi’i rhannu a’i dosbarthu drwy wefan y Gyfnewidfa Arfer Da. Cyfathrebwyd y wybodaeth hefyd mewn cyfres o seminarau dysgu a rennir, a oedd yn cynnwys Rheolwyr Fflyd a Thrafnidiaeth o ystod eang o sefydliadau sector cyhoeddus a gynhaliwyd ledled Cymru ym mis Mai.

Caiff dros £33 miliwn ei wario ar danwydd bob blwyddyn gan sefydliadau sector cyhoeddus Cymru. Bydd gan y cynnydd prisiau diweddar effaith sylweddol ar y costau hyn. Mae’r canllaw yn argymell rheolau llymach o ran defnyddio tanwydd ynghyd â gwell monitro. Mae meysydd wedi eu hamlygu i wella effeithlonrwydd tanwydd drwy gyflwyno rhaglenni rheoli tanwydd sy’n cynnwys hyfforddi gyrwyr am dechnegau gyrru i ddefnyddio tanwydd yn fwy effeithlon, ynghyd â monitro effeithlonrwydd tanwydd.

Yn ogystal, mae’r canllaw yn cydnabod bod yna dros 16,000 o gerbydau yn cael eu defnyddio gan gyrff sector cyhoeddus, gan gynnwys ambiwlansys, injanau tân a lorïau casglu ysbwriel.  Mae’r rhain yn allyrru oddeutu 110,000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. Felly, mae’n hanfodol bod sefydliadau yn mynd ati i leihau lefelau allyriadau, gyda’r disgwyl o hyrwyddo polisi trafnidiaeth sy’n dangos cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a fydd yn cydfynd â fflyd effeithlon sydd wedi ei redeg yn dda.

Heddiw, dywedodd Archwilydd Cyffredinol dros Gymru, Jeremy Colman:
“Mae rhannu ymarfer da yn un o’r ffyrdd mae Swyddfa Archwilio Cymru yn hyrwyddo gwella o fewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae wastad wedi bod yn bwysig er mwyn sicrhau gwerth am arian wrth fflydoedd cerbydau y gwasanaethau cyhoeddus. Gyda chostau tanwydd ar eu lefelau presennol, dylai ein canllaw Rheolaeth Fflyd fod yn ddefnyddiol iawn i bawb sy’n ymwneud â rheolaeth fflyd.”

Sylwadau i Olygyddion:

  • Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da a lansiwyd yn 2007, yn rhannu gwybodaeth am waith Swyddfa Archwilio Cymru ar ei wefan ei hun. Mae’r wefan  yn cywain astudiaethau achos o ymarfer da gan dros 100 o gyrff cyhoeddus a archwilir gan Swyddfa Archwilio Cymru bob blwyddyn, a dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio’n galed i wella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru drwy gynorthwyo sefydliadau i amlygu ymarfer da a’i gyflwyno.  Oherwydd ein sefyllfa unigryw yng Nghymru, sy’n cynnwys perthynas gyda phob sefydliad cyhoeddus, mae modd i ni fod yn dyst i ymarfer da mewn un sefydliad, ac amlygu sefydliadau eraill lle y gallai cymhwyso’r ymarfer da fod yn fanteisiol iddynt.  
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar lywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio cyhoeddus gwerth dros £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol a gwerth £30 biliwn o asedau cyhoeddus.  Ei nod yw hyrwyddo gwella, fel bod pobl Cymru yn manteisio ar wasanaethau cyhoeddus dibynadwy sydd wedi eu rheoli’n dda er mwyn hyrwyddo ymarfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru