Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Cymdeithas Tai Cymru gyfan yn darparu gwasanaethau 'boddhaol' i'w thenantiaid
09/07/2008
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhyddhau adroddiad ar Gymdeithas Tai Wales & West
Mae Cymdeithas Tai Wales & West yn darparu gwasanaeth boddhaol i'w thenantiaid, yn ôl adroddiad a ryddheir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dywedodd yr adroddiad fod y Gymdeithas yn darparu gwasanaethau ‘boddhaol’ mewn chwech allan o wyth maes allweddol yn cynnwys ei chydberthynas â phreswylwyr; ei threfniadau ar gyfer darparu tai; gosod tai ac yn ei pholisïau cyfle cyfartal. Cafodd yr adroddiad fod y Gymdeithas yn darparu gwasanaethau ‘ardderchog’ hefyd ym maes rheoli tai ond  bod ‘lle i wella'n sylweddol’ o ran ei gwasanaethau cynnal a chadw.

Edrychodd yr adroddiad hefyd ar drefniadau'r Gymdeithas ar gyfer sicrhau gwelliant parhaus ei gwasanaethau. Daeth i'r casgliad bod y Gymdeithas wedi dangos cyfeiriad strategol clir a'i bod yn gallu cynllunio'i gwaith tuag at gyflawni targedau a osodwyd, gyda threfniadau i sicrhau bod y staff a'r cyllid cywir ar gael i gyflawni'r gwelliannau. Roedd cryn newid ar waith o fewn y sefydliad, ac roedd mentrau diweddar yn cael eu mireinio a'u gwella'n barhaus. Roedd y Gymdeithas wedi adolygu ei sefyllfa ariannol hirdymor hefyd i fynd i'r afael â'r bwlch sy'n lleihau rhwng yr incwm a gynhyrchir a'r gwariant sydd ei angen.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i hyrwyddo gwella pellach, gan gynnwys:

  • gweithio gyda phreswylwyr i ddatblygu dulliau wedi'u teilwra o'u cynnwys ymhellach o ran darparu tai â chymorth;
  • sicrhau bod gosodiadau ar gyfer pobl ag anghenion cymorth yn cyflawni'r targedau a fabwysiadwyd;
  • datblygu a chyflwyno system gynhwysfawr ar gyfer contractwyr mewn perthynas â threfnu apwyntiadau o ran gwaith atgyweirio;  a
  • sicrhau bod targedau staff yn gysylltiedig ag amcanion corfforaethol er mwyn helpu i gyflawni amcanion strategol.

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
“Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod Cymdeithas Tai Wales & West yn darparu gwasanaeth boddhaol i'w thenantiaid ar y cyfan. Mae'r Gymdeithas wedi dangos parodrwydd i wella mewn meysydd allweddol a dylai hyn, ynghyd â'r argymhellion rwyf wedi'u gwneud, ei helpu i wella ei gwasanaethau ledled Cymru ymhellach.”


Nodiadau i Olygyddion:

  • Cynhaliwyd yr arolygiad o Gymdeithas Tai Wales & West ym mis Gorffennaf 2007. Ar adeg yr arolygiad, roedd y Gymdeithas yn rheoli dros 9,000 o dai ac roedd traean ohonynt yn dai gwarchod.
  • Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1965 ac mae ganddi stoc tai mewn 16 o  ardaloedd awdurdod lleol ledled Cymru. Mae gan y Gymdeithas 12 o aelodau Bwrdd etholedig, yr oedd traean ohonynt yn aelodau Bwrdd Preswyl a etholwyd yn uniongyrchol gan breswylwyr.
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o gymdeithasau tai yng Nghymru. Caiff y gwaith arolygu ei gynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
  • Amlinellir y cwestiynau penodol am bob agwedd ar yr arolygiad yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoliadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i hwn drwy glicio ar y cyswllt canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/
    regulatorycodehas;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=cy
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru