|
Nid oedd y GIG yng Nghymru wedi ei baratoi yn ddigon trylwyr ar gyfer newidiadau mawrion i’r modd y darperir gwasanaethau ocsigen yn y cartref, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol dros Gymru. Rhoddwyd cytundeb pum mlynedd i Air Products Cyf a ddechreuodd ym mis Chwefror 2006, er mwyn integreiddio cyflenwad gwasanaethau ocsigen yn y cartref. Ynghyd â’r cytundeb newydd, rhagwelodd y trefniadau newydd asesiad clinigol arbenigol o anghenion y claf. Ond, yn ôl adroddiad heddiw, nid yw’r buddion disgwyledig wedi eu gwireddu’n llawn o hyd.
Mae costau darparu ocsigen yn y cartref o dan y cytundeb newydd o gwmpas £6 miliwn. Mae hyn lawer yn uwch na’r dyfalbris gwreiddiol o £2 miliwn, a oedd yn seiliedig ar wybodaeth diffygiol a ddarparwyd gan y GIG ar y gofyn debygol, ond yn agos at gostau blynyddol trefniadau blaenorol. Mae adroddiad heddiw yn datgan bod yna botensial i leihau costau yn yr hirdymor drwy asesiadau clinigol arbenigol, a fydd yn amlygu’r cleifion hynny sydd heb yr angel clinigol am ocsigen.
Canfu’r adroddiad yn ogystal bod yr amserlen ar gyfer paratoadau’r cytundeb newydd yn dynn ac nid oedd yn darparu unrhyw le i newid pe bai problemau yn codi. Nid oedd gwybodaeth digonol ar gael ar y niferoedd a manylion y cleifion y’u heffeithiwyd gan y newidiadau, a achosodd cyfathrebu hwyr gyda chleifion am y newidiadau i’r gwasanaeth. Nid oedd bwriadau Llywodraeth Cynulliad Cymru o gyflwyno’r newidiadau yn raddol neu mewn modd sydyn yn glir.
Methodd y trefniadau newydd bron yn syth. Nid oedd Air Products Plc yn gallu ymdopi gyda’r gofynion annisgwyl a digyffelyb a roddwyd ar y cleifion a’r gweithwyr iechyd proffesiynol. Roedd yna hefyd broblemau ychwanegol gyda’r defnydd o’r ffurflen gais newydd gan ymarferion GP a achosodd iddynt gyflwyno archebion anghyflawn a dyblyg.
Ymatebodd Llywodraeth y Cynulliad yn gyflym i’r argyfwng. Rhoddodd orchymyn i fyrddau iechyd lleol i barhau â gweithdrefnau priodol gyda fferyllwyr cymunedol wrth ddarparu sylindrau ocsigen. Yn wreiddiol, bwriadwyd parhau â’r drefn am chwe mis, ond fe’i hestynnwyd i saith mis. Roedd y trefniadau yn effeithiol wrth adfer cyflenwad gwasanaethau ocsigen yn y cartref, ond roedd yn gost ychwanegol i’r GIG.
Erbyn Medi 2006, Air Products oedd unig darparwr ocsigen yn y cartref yng Nghymru. Roedd yna gyfnod estynedig o anghydfod dros codiadau tâl a godwyd gan Air Products o dan y cytundeb a achosodd i rai byrddau iechyd lleol i beidio â thalu. Cafodd y mater hwn ei ddatrys ym mis Hydref 2007.
Er yr arian ychwanegol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, mae’r cynnydd gan Fyrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau o gyflwyno asesiadau clinigol effeithiol o gleifion sydd angen ocsigen wedi bod yn araf. Heb yr asesiadau arbenigol hyn, nid yw’r trefniadau eto wedi darparu’r manteision disgwyledig i gleifion.
Mae’r adroddiad yn gwneud pedwar argymhelliad er mwyn sicrhau gwella:
- ar gyfer cytundebau tebyg i Gymru a Lloegr, dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru allu newid trefniadau cytundebol newydd yng Nghymru i leihau risgiau;
- dylai Llywodraeth y Cynulliad rhaglunio darbodaeth ar gyfer problemau posib tra’n cynllunio amserlenni;
- dylai Llywodraeth y Cynulliad oruchwylio effeithiolrwydd cyfathrebiadau gan gyrff iechyd tra’n cyhoeddi newidiadau i’r gwasanaethau; a
- dylai Llywodraeth y Cynulliad orchymyn i BILlau ac ymddiriedolaethau’r GIG i flaenoriaethu datblygiad asesiadau clinigol arbenigol.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol dros Gymru heddiw: “Ni chafodd y newidiadau yn nhrefniadau gwasanaethau ocsigen yn y cartref eu rheoli’n dda ac roedd modd rhagweld y rhesymau tu ôl i fethiant y trefniadau aflwyddiannus. Mae’n siomedig nad yw rhai o’r manteision disgwyledig i gleifion wedi dod i’r amlwg eto. Mae hyd yn oed yn fwy siomedig na chafodd y gwersi blaenorol ynglyn â chynllunio ar gyfer amgylchiadau annisgwyl, asesu risg a chyfathrebu gyda’r rhai a effeithiwyd gan y newidiadau neu’r rhai oedd yn gyfrifol am ddarparu’r newid eu dysgu yn yr achos hwn.”
Sylwadau i Olygyddion:
- Mae’r adroddiad hwn yn asesu a wnaeth y GIG yng Nghymru reoli’r cyflwyniad o drefniadau newydd ar gyfer gwasanaethau ocsigen yn y cartref yn effeithiol a ph’un ai ydynt wedi cyrraedd yr amcanion ansawdd clinigol uwch ac effeithlonrwydd gwasanaeth.
- Roedd y cytundeb ocsigen yn y cartref yn cwmpasu Cymru a Lloegr a phrofwyd y problemau gyda’r cytundeb newydd yn y ddwy wlad. Mae ein gwaith archwilio yn canolbwyntio ar y sefyllfa yng Nghymru.
- Cymerodd y trefniadau newydd ar gyfer darpariaeth gwasanaethau ocsigen yn y cartref o 1 Chwefror 2006 le’r trefniadau blaenorol a weithredwyd am ddegawdau. Darparwyd cyflenwadau silindrau ocsigen yn y cartref yn wreiddiol ar ragnodiadau GP drwy fferyllwyr cymuned leol; darparwyd cyflewnadau ocsigen crynodyddol yng Nghymru gan ddau gontractwr gwahanol. O dan y cytundeb newydd, darparwyd cyflewnwadau ocsigen yn y cartref i gleifion gan un ffynhonnell.
- Gellir dod o hyd i gronoleg llawn o ddigwyddiadau ynglyn â moderneiddio gwasanaethau ocsigen yng Nghymru a Lloegr yn Atodiad 1 yn yr adroddiad.
- Mae Swyddfa Arcwhilio Cymru yn annibynnol ar lywodraeth ac mae’n gyfrifol am waith archwilio blynyddol gwerth £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. Ei nod yw hyrwyddo gwella, er mwyn i bobl Cymru fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus dibynadwy sydd wedi eu rheoli’n dda i gael y gwerth gorau posib am arian. Mae hefyd wedi ei hymrywmo i amlygu a lledaenu ymarfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol dros Gymru gan alluogi trosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Cenedlaethol Cymru yng Nghymru i’w gyflogaeth ef.
|