Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Cartrefi Melin yn cynnig gwasanaethau ‘boddhaol’ i denantiaid
31/07/2008
Ond mae yna le ar gyfer gwelliant sylweddol mewn rhai meysydd allweddol, medd yr Archwilydd Cyffredinol
Mae Cymdeithas Tai Cartrefi Melin yn darparu gwasanaeth boddhaol i’w thenantiaid ond mae yna le ar gyfer gwelliant mewn tri maes allweddol, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

Mae’r adroddiad yn dyfarnu bod gan y Gymdeithas ddull ‘da’ o ddarparu a rheoli tai, yn dilyn uno Cymdeithas Tai Eastern Valley a Gwerin ym mis Ebrill 2007. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos yr oedd Melin yn darparu gwasanaethau ‘boddhaol’ yn y meysydd canlynol: yn ei pherthynas gyda’i thenantiaid; ei gwasanaethau rhentu; a’i darpariaeth ar gyfer pobl gydag anghenion cefnogi. Fodd bynnag, amlygodd yr adroddiad bod yna dri maes allweddol oedd â ‘lle ar gyfer gwelliant sylweddol’: yn ei ddull o weithredu cyfleoedd cyfartal; gosod tai; a’i gwasanaeth cynnal a chadw.

Roedd yr adroddiad hefyd yn edrych ar drefniadau’r Gymdeithas ar gyfer sichrau gwelliant parhaus yn ei gwasanaethau, a daeth i’r casgliad bod y gymdeithas yn codi safonau darpariaeth gwasanaeth. Ymddengys bod gan Gartrefi Melin gyfeiriad strategol clîr, gyda chynllun busnes gweithredol a oedd yn helpu cywain y sefydliadau oedd wedi uno yn ddiweddar, a ddangosodd ymrwymiad i adolygu ei gwaith er mwyn gwella gwasanaethau. 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion er mwyn hyrwyddo gwelliant pellach, gan gynnwys:

  • datblygu a gweithredu ei strategaeth cyfranogiad tenantiaid a chynllun gweithredu;
  • cyflwyno system apwyntiadau trwsio ar gyfer ei gontractwyr;
  • cynnal a chadw rhestrau aros agored a rhoi terfynau ar gyfyngiadau ar fynediad i restrau aros ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am dai; a
  • gwella’r ansawdd ac ystod y wybodaeth a ddarperir i breswylwyr. 

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod Cartrefi Melin yn symud yn y cyfeiriad cywir. Er gwaethaf rhai pryderon mewn ambell faes, mae’r Gymdeithas newydd hon wedi profi’r gallu i werthuso a gwella ei pherfformiad. Dylai’r ymrwymiad hwn, ynghyd â’r argymhellion rwyf wedi eu gwneud, helpu’r Gymdeithas i wella ei gwasanaethau i’w thenantiaid.”

Sylwadau i Olygyddion:

  • Cynhaliwyd yr arolygiad o Gartrefi Melin ym mis Chwefror 2008. Ar y pryd, roedd y Gymdeithas yn rheoli dros 2,700 o dai gan gynnwys nifer o gynlluniau lloches.
  • Ffurfiwyd y Gymdeithas ym mis Ebrill 2007 ar ôl uno Cymdeithas Tai Eastern Valley a Gwerin. Mae gan Gartrefi Melin swyddfeydd ym Mhontypwl a’r Fenni, a chyflogwyd 136 aelod o staff ar y pryd. 
  • Llywodraethir y Gymdeithas gan fwrdd o 15 aelod gwirfoddol gyda thri safle ar y bwrdd wedi eu cad war gyfer aelodau’r bwrdd tenantiaeth. Rheolir y Gymdeithas gan Dîm Rheoli Corfforaethol (TRC) sy’n cynnwys y Prif Weithredwr a chwe cyfarwyddwr. 
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi apwyntio Swyddfa Archwilio Cymru i ymgymryd â gwaith archwilio ar gymdeithasau tai yng Nghymru. Cynhelir arolygiadau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol Cymru 1998, fel a ddiwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
  • Mae’r cwestiynau penodol am bob agwedd o’r arolygiad wedi eu gosod allan yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoleiddio’r Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i’r cod drwy glicio ar y ddolen ganlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/
    regulatorycodehas;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=en
    .
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar lywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio cyhoeddus gwerth £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. 
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru a galluogi trosgwlyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Cenedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth ef.
<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru