|
Canfu arolygiad bod Cymdeithas Tai Cantref yn darparu gwasanaethau aflwyddiannus mewn chwech o wyth o feysydd a aseswyd ac ‘ni ddangosodd y gallu’ i sicrhau gwelliant parhaus o’i gwasanaethau i denantiaid, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol dros Gymru.
Canfu’r adroddiad bod y Gymdeithas yn darparu gwasanaethau ‘boddhaol’ mewn dim ond dau o feysydd a oedd yn cynnwys darpariaeth tai a’i threfniadau ar gyfer pobl oedd ag anghenion cefnogi. Amlygodd yr adroddiad hefyd ffaeleddau yng ngweddill y meysydd a arolygwyd. Roedd y rhain yn cynnwys cyfleoedd cyfartal, gosod tai a’i gwasanaeth cynnal a chadw, ac yn ôl yr arolygwyr, roedd yna le ar gyfer ‘gwelliant sylweddol’ yn y meysydd hyn. O ran ei pherthynas gyda’i thenantiaid; rhentau a rheoli tai, ni chydymffurfiodd y Gymdeithas â Chod Rheoleiddio Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Roedd yr adroddiad yn datgan nad oedd y Gymdeithas wedi ‘dangos y gallu’ i sicrhau gwelliant parhaus. Roedd y Gymdeithas yn gweithredu cynllun busnes, ond nid oedd wedi ystyried pob un o’r meysydd pwysig o fewn y Gymdeithas. Doedd gan y Gymdeithas ddim chwaith y gweithdrefnau er mwyn sicrhau gwell effeithiolrwydd yn y dyfodol.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion er mwyn hyrwyddo gwelliant, gan gynnwys:
- Datblygu cyfeiriadaeth strategol eglur sy’n cyfeirio at y brif heriau sy’n wynebu’r Gymdeithas;
- Datblygu dull gweithredu strategol sydd wedi ei gydgysylltu i weithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill;
- Gweithio gyda phreswylwyr er mwyn datblygu fframwaith cyfun er budd perthynas y Gymdeithas â phreswylwyr;
- Cyflwyno mesuriadau effeithiol i reoli a gwerthuso canlyniadau gwasanaethau rheoli ystadau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol y Gymdeithas.
Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos nad oedd Cymdeithas Tai Cantref yn darparu gwasanaeth boddhaol i’w denantiaid, ac nad oedd ei strategaethau yn awgrymu bod ganddi’r gallu i wella ei gwasanaethau yn sylweddol. Mae’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn gosod allan beth sydd angen i’r Gymdeithas ei wneud i wella ei pherfformiad.”
Sylwadau i Olygyddion:
- Cynhaliwyd yr arolygiad o Gymdeithas Tai Cantref ym mis Hydref 2007. Roedd y Gymdeithas yn gyfrifol am 1,336 o dai a leolwyd yn ardaloedd gwledig yng Ngheredigion, Gogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin gyda nifer fechan o gartrefi ym Mhowys.
- Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1989 ac mae ganddi 75 aelod o staff mewn dwy swyddfa yng Nghastell Newydd Emlyn ac Aberystwyth.
- Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi apwyntio Swyddfa Archwilio Cymru i ymgymryd â gwaith archwilio ar gymdeithasau tai yng Nghymru. Cynhelir arolygiadau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol Cymru 1998, fel a ddiwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
- Mae’r cwestiynau penodol am bob agwedd o’r arolygiad wedi eu gosod allan yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoleiddio’r Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru.Gellir dod o hyd i’r cod drwy glicio ar y ddolen ganlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/regulatorycode
has;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=en
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar lywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio cyhoeddus gwerth £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
- Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru a galluogi trosgwlyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Cenedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth ef.
|