Banner

Datganiadau i'r wasg

Mae gan Gymdeithas Tai Linc Cymru le i wella'n sylweddol yn y rhan fwyaf o feysydd allweddol

04/09/2008

Yr Archwilydd Cyffredinol yn rhyddhau adroddiad ar Gymdeithas Tai de a chanolbarth Cymru

Mae gan Gymdeithas Tai Linc Cymru le i wella'n sylweddol mewn pump allan o wyth gwasanaeth i gwsmeriaid, yn ôl adroddiad a ryddhawyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Canfu fod y gymdeithas, sy'n rheoli tua 3,500 o gartrefi yn ne a chanolbarth Cymru, drefniadau 'da' ar waith ar gyfer darparu tai a threfniadau 'boddhaol' ar gyfer ei gwasanaeth rhenti a chartrefu pobl ag anghenion cymorth. Ond, mae gan y gymdeithas le i wella'n sylweddol o ran ei chydberthynas â phreswylwyr; cyfle cyfartal, gosodiadau, rheoli ei thai a gwasanaethau cynnal a chadw.

Edrychodd yr adroddiad hefyd ar drefniadau'r Gymdeithas ar gyfer sicrhau gwelliant parhaus ei gwasanaethau. Daeth i'r casgliad bod y Gymdeithas yn dangos gwendidau o ran proses a pherfformiad a bod angen iddi sicrhau bod yr amcanion yr oedd yn eu pennu yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd. Nid oedd hanes y Gymdeithas o gyflawni gwelliannau ar gyfer ei chwsmeriaid yn drawiadol ac er iddi gydnabod angen i fynd i'r afael â phroblemau roedd ei chynlluniau i wneud hynny yn wan o hyd.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i hyrwyddo gwella pellach, gan gynnwys:

  • Cynnwys tenantiaid o ran datblygu ei strategaethau cynnwys cwsmeriaid a safonau gwasanaeth
  • Darparu mwy o lety i gynorthwyo awdurdodau lleol i ailgartrefu pobl ddigartref
  • Sicrhau bod ei swyddfeydd a'i stoc dai yn cydymffurfio'n llawn â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd
  • Sicrhau bod uwch aelodau staff yn rheoli perfformiad ac yn mynd i'r afael â meysydd lle y ceir perfformiad gwael yn effeithiol

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
"Dengys yr adroddiad hwn fod Linc Cymru yn methu â chyrraedd safonau yn y rhan fwyaf o feysydd. Mae angen iddi dderbyn yr angen am welliant sylweddol a gweithredu fy argymhellion."

Nodiadau i Olygyddion:

  • Cynhaliwyd yr arolygiad o Gymdeithas Tai Linc Cymru ym mis Tachwedd 2007. Ar adeg yr arolygiad roedd y Gymdeithas yn rheoli dros 3,442 o dai mewn 10 ardal awdurdod lleol yn Ne a Chanolbarth Cymru yn cynnwys Blaenau Gwent a Phowys.
  • Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1977 fel Cymdeithas Tai Morgannwg a Gwent ac fe'i hailenwyd yn Linc Cymru yn 2006. Mae ganddi swyddfa yng Nghaerdydd ac un swyddog mewn swyddfa gymuned a rennir yn Six Bells ym Mlaenau Gwent. Mae gan Linc Cymru 12 o aelodau bwrdd, ac roedd dau ohonynt yn aelodau o'r bwrdd a oedd yn denantiaid, a chaiff ei rheoli gan gynllun gweithredol corfforaethol. 
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o gymdeithasau tai yng Nghymru. Caiff y gwaith arolygu ei gynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
  • Amlinellir y cwestiynau penodol am bob agwedd ar yr arolygiad yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoliadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i hwn drwy glicio ar y cyswllt canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/regulatorycodehas?lang=cy
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd staff o'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>