Banner

Datganiadau i'r wasg

Dysgu gwersi o arolygiadau o gymdeithasau tai

02/03/2009

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyflwyno adroddiad ar berfformiad cymdeithasau tai yng Nghymru ac yn amlygu'r gwendidau yn y system bresennol o reoleiddio ac arolygu

Mae cyfres o arolygiadau yng nghymdeithasau tai mwyaf Cymru wedi datgleu gwersi a allai fod yn ddefnyddiol i Lywodraeth y Cynulliad wrth iddi lunio system reoleiddio newydd. Mae'r arolygiadau hefyd wedi nodi materion, gwersi ac arfer da cyffredin a ddylai helpu cymdeithasau tai i wella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i breswylwyr.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi ei adroddiad Y Gwersi o Arolygiadau - Arolygiadau o Gymdeithasau Tai 2005-2008, sy'n dod â chanfyddiadau adolygiadau o 29 o gymdeithasau tai yng Nghymru ynghyd yn erbyn meini prawf allweddol, fel cydberthnasau â phreswylwyr, cyfle cyfartal, gosodiadau a gwaith cynnal a chadw. Mae hefyd yn nodi'r gwendidau yn y system bresennol o reoleiddio ac arolygu tai sydd bellach yn cael ei hailgynllunio yn dilyn adolygiad Sue Essex o Dai Fforddiadwy yng Nghymru.

Dengys yr adroddiad heddiw fod pob cymdeithas tai yn darparu tai mewn ffordd a oedd yn foddhaol neu'n well ac roedd y rhan fwyaf yn perfformio'n foddhaol neu'n well ym meysydd rhenti, rheoli tai a darparu tai ar gyfer pobl ag anghenion cymorth. Roedd y rhan fwyaf hefyd yn perfformio'n foddhaol neu'n well mewn perthynas â chydberthnasau â phreswylwyr; cyfle cyfartal a gosodiadau - er bod gan bron i draean o'r cymdeithasau 'le i wella'n sylweddol' mewn perthynas ag o leiaf un o'r meysydd gwasanaeth hyn.

Fodd bynnag, roedd gan hanner y cymdeithasau 'le i wella'n sylweddol' mewn perthynas â gwaith cynnal a chadw ac roedd mwy na thraean naill ai'n dangos 'gwendidau o ran prosesau a pherfformiad' neu'n 'methu â dangos gallu' mewn perthynas â gwelliant parhaus.

Mae'r adroddiad heddiw yn amlygu nifer o ddiffygion yn y Cod Rheoliadol ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Nid yw'r Cod yn darparu meini prawf clir ar gyfer barnu ansawdd gwasanaethau a ddarperir ac roedd y diffiniadau a ddefnyddiwyd i gategoreiddio perfformiad yn amwys. Mae angen i'r Cod fod yn fwy penodol - gan ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na phrosesau.

Nid yw hunanasesiadau cymdeithasau tai wedi bod yn drwyadl nac yn ddibynadwy chwaith. Ychydig iawn o gymdeithasau a oedd wedi cynnwys her effeithiol yn eu hasesiadau, neu wedi ymgysylltu â phreswylwyr. Roedd nifer o asesiadau yn adnoddau marchnata yn unig, ac nid oeddent yn adlewyrchu ansawdd y gwasanaethau a ddarparwyd. Mae adolygiad Essex yn rhagweld rôl llawer amlycach ar gyfer hunanasesu yn y system reoleiddio newydd.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu amrywiaeth o enghreifftiau o arfer da a ganfuwyd gan arolygwyr mewn cymdeithasau yn ystod eu harolygiad. Nodir y rhain i gyd yn adran Y Gyfnewidfa Arfer Da o wefan Swyddfa Archwilio Cymru http://www.wao.gov.uk/1872.asp

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
'Daw'r adroddiad hwn â thair blynedd o arolygiadau ynghyd a dylai fod yn ddogfen ddefnyddiol i gymdeithasau tai o ran datblygu a gwella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i breswylwyr. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yn helpu i lywio gwaith Llywodraeth y Cynulliad o gynllunio system reoleiddio newydd sy'n fwy cadarn ac effeithiol.'


Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae Llywodraeth y Cynulliad, fel rheoleiddiwr cymdeithasau tai yng Nghymru, wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal arolygiadau o gymdeithasau, o dan Adran 96c o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
  • Cynhaliwyd rhaglen Swyddfa Archwilio Cymru o arolygiadau gan dîm arbenigol rhwng mis Mai 2005 a mis Medi 2008. Cynhaliwyd cyfanswm o 30 o arolygiadau, yn cynnwys un ailarolygiad.
  • Ceir dadansoddiad o ddyfarniadau'r arolygiadau ar gyfer pob cymdeithas yn Atodiad 3 o'r adroddiad heddiw.
  • Amlinellir y cwestiynau penodol am bob agwedd ar yr arolygiad yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoliadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i hwn drwy glicio ar y cyswllt canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/
    regulatorycodehas;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=cy
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £20 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd staff o'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>