Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:

19/03/2009
'Mae'n rhaid i ymddiriedolaethau ganolbwyntio ar fodloni'r terfyn amser ar gyfer cydymffurfio' meddai'r Archwilydd Cyffredinol
Nid yw GIG Cymru'n debygol o gydymffurfio'n llawn â'r cyfyngiad amser gwaith o 48 awr yr wythnos i feddygon iau pan ddaw i rym ar 1 Awst eleni. Mae adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol yn datgan ei bod yn annhebygol y caiff y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd ei bodloni heb fuddsoddi ymdrech ac arian sylweddol neu, mewn rhai ardaloedd, estyn y terfyn amser ar gyfer cydymffurfio.
Mynega'r adroddiad fod bron pob meddyg iau wedi bod yn gweithio ar gyfartaledd o 56 awr yr wythnos neu lai ers diwedd 2006 (daeth y terfyn 56 awr i rym o 1 Awst 2007). Ac fel ym mis Gorffennaf 2008, roedd yr holl feddygon iau yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Bwrdd Iechyd Lleol Powys a chyn-Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru (sydd bellach yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda) eisoes yn gweithio llai na 48 awr yr wythnos. Fodd bynnag, roedd llawer o ymddiriedolaethau yn bell o gyflawni'r nod hwn a heb gynllun cyffredinol clir i sicrhau cydymffurfiaeth. Drwy'r GIG cyfan yng Nghymru, roedd mwy na hanner y meddygon iau yn dal i weithio mwy na 48 awr yr wythnos.
Gwnaed cynnydd amrywiol gan Ymddiriedolaethau hefyd o ran cyflawni'r mathau o newidiadau a allai gyfrannu at leihau oriau gwaith meddygon iau. Ymhlith y newidiadau hyn mae: gwaith rheoli rota gwell; rhoi prosiect Ysbytai Liw Nos ar waith (gweler Nodiadau i Olygyddion); ailfodelu gweithlu ehangach; ac ailgyflunio gwasanaethau.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhagweld na fydd mwy na 12 y cant o feddygon iau yn gweithio mwy na 48 awr yr wythnos erbyn mis Awst 2009. Ond mae'r rhagolwg hwn yn optimistaidd gan ei fod yn cymryd yn ganiataol y bydd yr ymddiriedolaethau'n gwireddu'r cynlluniau cydymffurfio y maent wedi bod yn eu trafod â Llywodraeth y Cynulliad ers Gorffennaf 2008. Yn ymarferol, efallai y bydd yn anodd rhoi newidiadau arfaethedig ar waith a'u cynnal - ymhlith y rhwystrau posibl yn cynnwys cyllid, problemau recriwtio ac amharodrwydd staff i newid. Hyd yn oed os yw patrymau rota'n cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb mewn egwyddor, mae risg y bydd dal i fod angen i'r meddygon iau weithio oriau hwy i fodloni anghenion y swydd.
Mae Llywodraeth y DU yn ceisio estyn y cyfyngiad amser ar gyfer cyflawni'r targed o 48 awr yr wythnos mewn ardaloedd penodol, ond mae'n rhaid i'r ymddiriedolaethau barhau i wneud eu gorau glas i gydymffurfio erbyn Awst 2009. Nid yw'r estyniad posibl wedi'i gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd eto. I fod yn gymwys am estyniad byddai'n rhaid i'r ymddiriedolaethau ddangos iddynt gymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth a byddai dal i fod angen iddynt leihau oriau gwaith meddygon iau i 52 awr yr wythnos neu lai o fis Awst 2009. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Ymddiriedolaethau wedi bod yn trafod sut y gall cynnydd bellach gael ei wneud ar safle gyffredinol y gydymffurfiaeth.
Heddiw dywedodd Jeremy Colman, yr Archwilydd Cyffredinol:
'Ni ddylai'r Ymddiriedolaethau adael i'r posibilrwydd y caiff terfyn amser mis Awst ei estyn dynnu eu sylw oddi ar yr angen i wneud pob ymdrech i gydymffurfio'n llawn â'r rheol wythnos 48 awr i feddygon iau. Bydd angen i Ymddiriedolaethau, Byrddau Iechyd Lleol, Llywodraeth y Cynulliad a phartneriaid eraill i gydweithio'n agosach dros y misoedd nesaf i drafod a chytuno ar beth sydd angen ei wneud i ategu cydymffurfiaeth.'
Nodiadau i Olygyddion: