|
Gwaharddwyd tan 00:01 o'r gloch, ddydd Mawrth 15 Tachwedd
Er gwaethaf cryfderau'r system gofal heb ei drefnu, mae cryn dipyn o le i wella'r ffordd y mae gwasanaethau yn cydweithio dywed adroddiad a gyhoeddir heddiw, gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Mae gofal heb ei drefnu yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio unrhyw ofal iechyd neu ofal cymdeithasol nas cynlluniwyd ac sydd ar fyrder. Mae'n amrywio o driniaeth frys mewn ysbyty i helpu unigolion i ofalu amdanynt eu hunain gartref. Ymhlith yr enghreifftiau eraill o wasanaethau gofal heb ei drefnu mae ffonio 999 am wasanaeth ambiwlans, neu drefnu apwyntiad brys neu ar fyrder gyda meddyg teulu.
Mae'r system gofal heb ei drefnu yn diwallu ystod eang o anghenion ac yn bodloni ystod eang o ofynion, gan ddarparu rhyw fath o help bob awr o'r dydd a'r nos yn aml pan fydd pobl yn agored iawn i niwed. Mae gan y cyhoedd feddwl mawr o rai gwasanaethau gofal heb ei drefnu ac maent yn gwerthfawrogi'r gweithwyr proffesiynol medrus iawn sy'n gweithio yn y system. Serch hynny, gall patrwm darniog gwasanaethau gofal heb ei drefnu arwain at aneffeithlonrwydd, ansicrwydd ac oedi. Mae'r system yn gymhleth fel nad yw pobl yn siwr sut nac ymhle i gael help, sydd yn aml yn golygu bod pobl yn ffonio 999 neu'n mynd i adran achosion brys ysbyty yn ddiangen. Mae peth o'r ansicrwydd hwn yn deillio o'r ffaith bod cynifer o bwyntiau mynediad gwahanol ar gael yn y system a all olygu bod pobl yn cael gafael ar amryw wasanaethau ar gyfer yr un gofal sydd ei angen, neu yn cael lefel o wasanaeth sy'n uwch na'r hyn sy'n briodol i ddiwallu eu hanghenion. Er enghraifft, gall fod gan unigolyn sydd wedi cael mân anaf y dewis o fynd i adran achosion brys neu uned mân anafiadau, mynd i weld ei feddyg teulu, ffonio Galw Iechyd Cymru neu ofalu amdano'i hun.
Ceir mwy o ansicrwydd o ganlyniad i'r amrywiad mewn gwasanaethau sydd ar gael ar adegau gwahanol o'r dydd a'r nos, ar y penwythnos ac mewn gwahanol rannau o Gymru. Gall yr amrywiaeth o wasanaethau hyd yn oed ddrysu gweithwyr proffesiynol. Cafodd yr adroddiad fod gwasanaethau yn araf i ymateb weithiau neu nad ydynt yn rhyngweithio'n effeithiol.
Er bod y system bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i ryw fath o help fod ar gael bob awr o'r dydd a'r nos, gwelwyd fod y system yn hynod ddarniog y tu allan i oriau.
Un o wendidau sylfaenol y broses bresennol o gynllunio gofal heb ei drefnu yw'r ffaith mai prin yw'r ddealltwriaeth o'r galw am wasanaethau. Gallai gwaith ataliol mwy effeithiol, yn enwedig drwy fferyllwyr cymunedol, y defnydd o deleofal sy'n cysylltu pobl yn eu cartrefi â'u clinigwyr a rheoli cyflyrau cronig, leihau rhywfaint o'r galw a wynebir gan wasanaethau ar hyn o bryd. Gellir rheoli'r galw ar adrannau achosion brys a'r ymddiriedolaeth ambiwlans drwy atal teithiau ambiwlans diangen a helpu pobl i ddefnyddio gwasanaethau amgen i adrannau achosion brys pan allai fod yn fwy priodol i'w hanghenion gael eu diwallu rywle arall.
Yn galonogol, nododd yr adroddiad hefyd fod Llywodraeth y Cynulliad a sefydliadau lleol bellach yn rhoi mwy o flaenoriaeth i wella gofal heb ei drefnu. Yn arbennig, mae gweledigaeth genedlaethol yn bodoli drwy Raglen Gyflenwi Strategol Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol, y mae ei chasgliadau yn gyson â chanfyddiadau'r adroddiad hwn.
Mae'r adroddiad, Gofal heb ei drefnu: datblygu dull o weithredu ar sail systemau cyfan, yn gwneud nifer o argymhellion:
- Dylai'r byrddau iechyd newydd arwain y gwaith o astudio ac ailgynllunio'r system gofal heb ei drefnu. Rhaid iddynt fynd ati i gynllunio gyda dealltwriaeth dda o'r galw am wasanaethau.
- Dylai'r byrddau iechyd newydd sicrhau bod lefelau staff yn bodloni'r galw.
- Dylai Llywodraeth y Cynulliad lunio strategaeth gyfathrebu genedlaethol i helpu'r cyhoedd i ddeall y ffordd orau o gael gafael ar wasanaethau gofal heb ei drefnu.
- Dylai Llywodraeth y Cynulliad helpu sefydliadau iechyd a llywodraeth leol i gyfuno eu systemau gwybodaeth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:
“Ni chaiff y broses o ddarparu gofal heb ei drefnu ei gwella hyd nes y'i gwelir ac y'i cynllunnir fel system gyfan. Mae gwneud y system yn haws i'r cyhoedd ei defnyddio a chysylltu'r gwasanaethau sy'n bodoli eisoes mewn ffordd fwy effeithiol yn bwysicach na chanolbwyntio ar gael gafael ar rannau penodol o system ddarniog."
Nodiadau i Olygyddion
- Mae'r adroddiad yn ystyried a wnaed digon o gynnydd mewn perthynas â chynllunio a darparu gofal heb ei drefnu o safbwynt pobl.
- Dylai'r argymhellion a geir yn yr adroddiad hwn gael eu hystyried ochr yn ochr â'r argymhellion a wnaed mewn adroddiadau blaenorol ar y gwasanaeth ambiwlans, trosglwyddo cleifion a Galw Iechyd Cymru. Rhydd Atodiad 2 o'r adroddiad hwn fanylion y rhain.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y Llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £20 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da drwy'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
|