Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Angen 'prosesau busnes gwell' ar Lywodraeth y Cynulliad i hyrwyddo Cymru gynaliadwy
21/01/2010
'Ymgorffori datblygu cynaliadwy ymhob penderfyniad', dywed yr Archwilydd Cyffredinol
Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad wella'r ffordd y mae'n gwneud penderfyniadau allweddol o hyd er mwyn creu Cymru gynaliadwy a chyflawni'r dyheadau a nodir yn ei chynllun sef Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, a gyhoeddwyd y llynedd.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn un o blith nifer fach o lywodraethau yn y byd sydd â dyletswydd gyfreithiol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac mae wedi cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn ôl cynllun datblygu cynaliadwy Llywodraeth y Cynulliad sef, Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned - mae datblygu cynaliadwy yn golygu gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau, gan sicrhau ansawdd bywyd gwell i’n cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol. Yn ôl adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddir heddiw, er gwaethaf y ffaith bod cryn dipyn wedi cael ei gyflawni, mae mwy i'w wneud o hyd.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyflwyno amrywiaeth o adnoddau a dulliau gweithredu i hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac mae wedi noddi ystod eang o brosiectau, megis ei menter i gaffael prydau bwyd sef Blas am Oes; addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang; prosiect Cymru Gynaliadwy Iach GIG Cymru a dangosyddion cynaliadwyedd i Gymru. Fodd bynnag, ystyrir bod datblygu cynaliadwy yn un o blith nifer o flaenoriaethau croes, yn hytrach nag yn rhywbeth a fydd yn helpu Llywodraeth y Cynulliad i ddewis rhwng blaenoriaethau croes. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad wedi defnyddio datblygu cynaliadwy fel modd i newid diwylliant y sefydliad, neu hyrwyddo ffocws mwy penodol ar wella lles hir dymor pobl yng Nghymru. Nid yw potensial ar gyfer egwyddorion datblygu cynaliadwy i ategu llywodraethu da wedi ei llwyr werthfawrogi eto.Mae cyfyngiadau ym mhrosesau busnes Llywodraeth y Cynulliad yn golygu na chaiff yr agenda cynaliadwyedd ei defnyddio'n gyson wrth wneud pob penderfyniad busnes.

Darganfyddodd yr adroddiad bod llawer i’w wneud i sicrhau bod pob aelod o staff yn deall sut mae egwyddorion datblygu cynaliadwy yn berthnasol i’w gwaith.
Yn ddiweddar mae Llywodraeth y Cynulliad wedi mabwysiadu datblygu cynaliadwy fel ei phrif egwyddor drefnu, sy'n gyfle i fynd i'r afael â'r gwendidau hyn.
Mae'r adroddiad a gyhoeddir heddiw yn argymell y dylai gwaith Llywodraeth y Cynulliad o dan ei chynllun sef Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned  ganolbwyntio'n fwy ar herio ffyrdd presennol o wneud busnes mewn meysydd megis deddfwriaeth, polisi a strategaeth a gwario arian trethdalwyr.

Ymhlith yr argymhellion eraill a geir yn yr adroddiad mae galwadau ar i Lywodraeth y Cynulliad:

  • Gynnwys datblygu cynaliadwy yn ei gweithdrefnau llywodraethu, cynlluniau ariannol, prosesau cynllunio busnes craidd, rhaglenni newid a phrosesau adnoddau dynol.
  • Sefydlu diwylliant rheoli sy'n rhoi pwyslais ar nodi unrhyw wrthdaro o ran polisi ar gam cynnar; gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatrys unrhyw wrthdaro; a lle na ellir datrys gwrthdaro, rheoli a lliniaru unrhyw wrthdaro rhwng polisïau.
  • Mabwysiadu systemau cynllunio busnes a rheoli perfformiad sy'n helpu unigolion a'r sefydliad cyfan i ganolbwyntio ar ganlyniadau.

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:

“Mae hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn hanfodol er mwyn sicrhau lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau ac er mwyn cynnig ansawdd bywyd gwell i’n cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol.

Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn mynd ati i gyflawni'r argymhellion a amlinellir yn fy adroddiad drwy adeiladu ar y sylfeini a geir yn ei chynllun sef Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, ei ymgorffori yn ei phenderfyniadau busnes a'i wneud yn fwy o flaenoriaeth ym mhopeth a wna."

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae'r adroddiad hwn sef, Datblygu cynaliadwy a gwneud penderfyniadau busnes yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ystyried a yw prosesau gwneud busnes Llywodraeth y Cynulliad yn ategu ei hamcanion datblygu cynaliadwy. Nid yw'n ystyried materion 'cymhennu gwyrdd'.
  • Mae'r adroddiad yn trafod y broses o wneud penderfyniadau a datblygu cynaliadwy yn Llywodraeth y Cynulliad yn ystod y deng mlynedd cyn cyhoeddi ei chynllun sef, Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned ym mis Mai 2009. Mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers i ddyletswydd statudol Llywodraeth y Cynulliad i hyrwyddo datblygu cynaliadwy ddod i rym.
  • Mabwysiadodd Llywodraeth y Cynulliad ei chynllun datblygu cynaliadwy cyntaf sef, Dysgu Byw'n Wahanol, yn 2000. Lansiodd ei hail gynllun datblygu cynaliadwy yn 2004 sef, Dechrau Byw'n Wahanol.
  • Rhannodd Swyddfa Archwilio Cymru ganfyddiadau'r gwaith hwn gyda swyddogion Llywodraeth y Cynulliad ar gam cynnar, er mwyn eu galluogi i ystyried y canfyddiadau hyn wrth ddrafftio'r cynllun datblygu cynaliadwy newydd.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y Llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £20 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da drwy'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru