Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Dweud eich dweud am fwyd ysbytai
03/03/2010
Swyddfa Archwilio Cymru yn lansio holiadur fel rhan o astudiaeth o wasanaethau bwyd ac arlwyo yn ysbytai Cymru
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gwahodd unrhyw un sydd wedi bod yn glaf, neu sy'n gofalu am rywun a fu mewn ysbyty, yn ystod y 12 mis diwethaf, i fynegi eu barn ar y bwyd a gawsant yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty.

Mae'r holiadur yn rhan o adolygiad a fydd yn archwilio a yw ysbytai yng Nghymru yn darparu gwasanaethau arlwyo effeithlon ac effeithiol sy'n helpu cleifion i wella.

Gallwch gwblhau'r holiadur ar-lein yn www.wao.gov.uk. Fel arall, gallwch gael gafael ar fersiwn papur o'r holiadur drwy ffonio 029 2032 0616 neu drwy ysgrifennu at Katrina Febry yn 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ.

Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio eich barn ynghyd â chanfyddiadau eraill o'r holiadur i roi gwybod i sefydliadau'r GIG a chyrff eraill megis Llywodraeth Cynulliad Cymru ble y caiff gwasanaethau arlwyo ysbytai eu darparu'n dda a ble y mae angen gwella. Mae'r holiadur ar agor tan 30 Ebrill 2010.

Er ein bod yn croesawu sylwadau gan unrhyw un, ni all Swyddfa Archwilio Cymru ymdrin â phrofiadau unigol pobl na rhoi cyngor arnynt.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Rydym ond yn ceisio barn cleifion sydd wedi cael profiad o fwyd yn ysbytai'r GIG yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £20 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. Ei chenhadaeth yw hyrwyddo gwelliant, fel bod pobl Cymru yn cael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi eu rheoli'n effeithiol ac sy'n cynnig y gwerth am arian gorau posibl Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru