Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:

16/03/2010
'Mae'n rhaid i Gymru newid ac arloesi er mwyn iddi gyflawni mewn sefyllfa ariannol anodd', dywed yr Archwilydd Cyffredinol newydd
Mae angen i'r sector cyhoeddus yng Nghymru weithio mewn ffyrdd tra gwahanol er mwyn iddo ymateb i'r dirywiad economaidd a chynnal a gwella ansawdd y gwasanaethau a'u heffaith. Mae adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn rhagweld, dros y tair blynedd o fis Ebrill 2011, y gallai fod toriad mewn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o tua £1.5 biliwn.
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn nodi'r materion allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn taflu goleuni ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pum mlynedd ers i Swyddfa Archwilio Cymru gael ei chreu. Mae gwaith Swyddfa Archwilio Cymru yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru felly mae mewn sefyllfa unigryw i allu edrych ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a nodi'r heriau a'r cyfleoedd cyffredin y mae angen i gyrff cyhoeddus fynd i'r afael â hwy a'u hystyried yn y dyfodol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu'n sylweddol. Dengys gwaith Swyddfa Archwilio Cymru fod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi gwella'n raddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ond mae angen gwneud cynnydd sylweddol o hyd ac ni fydd y duedd hon o ran gwella'n raddol yn ddigon yn y dyfodol. Mae gostyngiadau mawr mewn cyllidebau a galw cynyddol am wasanaethau yn golygu y bydd angen mabwysiadu dull llawer mwy radical o weithredu.
Mae'n rhaid sicrhau bod gwella effeithlonrwydd yn rhan o'r ateb. Ond mae'r adroddiad yn rhybuddio yn erbyn mabwysiadu ymagwedd gul tuag at effeithlonrwydd sy'n seiliedig ar wneud mwy, neu'r un peth, gyda llai o arian, llai o staff a llai o amser. Gall hyn arwain, yn y pen draw, at wasgfa mewn man arall, megis gwasanaethau o safon is. Dywed adroddiad heddiw fod gwir angen i'r sector cyhoeddus ganolbwyntio ar gyflawni mwy, neu'r un peth, am lai o arian. Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar arbedion cost yn unig, yr hyn sydd ei angen yw cysylltiad clir rhwng effeithlonrwydd a gwell canlyniadau i ddinasyddion. Er mwyn gwneud hyn mae angen canolbwyntio ar ddulliau arloesol o weithredu ac ail-lunio gwasanaethau yn seiliedig ar wir anghenion a gofynion y dinesydd.
Mae'r adroddiad yn nodi meysydd allweddol i wasanaethau cyhoeddus ganolbwyntio arnynt - gan gynnwys strategaeth a chynllunio, rheoli ariannol, cydweithio, defnyddio data perfformiad yn fwy effeithiol, rheoli staff a gwneud defnydd gwell o asedau. Mae'r rhain yn feysydd pwysig i'r sector cyhoeddus cyfan.
Er mwyn helpu gwasanaethau cyhoeddus i ymdopi yn ystod cyfnod economaidd anodd, mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn lansio set o ddeunyddiau heddiw i helpu cyrff cyhoeddus i sicrhau effeithlonrwydd drwy arloesi:
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Gillian Body:
"Mae yna gyfnod anodd ar y gweill ac mae angen i ni wneud penderfyniadau anodd. Ac, er mwyn ymdrin yn effeithiol â'r heriau hyn, mae angen i'r sector cyhoeddus newid ac arloesi. Mae angen strategaethau a chynlluniau clir arno, sy'n seiliedig ar wybodaeth dda i ategu dewisiadau anodd. Dylid rheoli risg ond ni ddylai'r sector cyhoeddus fod yn amharod i fentro. Dylid gwneud gwell defnydd o staff, adnoddau ac asedau. Ac mae angen i'r sector cyhoeddus gydweithio'n fwy, mewn ffordd gydgysylltiedig. Ond, uwchlaw pob dim, mae a wnelo â chanfod ffyrdd newydd o weithio sy'n seiliedig ar yr hyn sydd o bwys i ddinasyddion."
Nodiadau i olygyddion: