Banner

Datganiadau i'r wasg

Llawer o ysgolion yn 'dal yn anaddas at y diben'

14/07/2010

Ond mae gan newidiadau diweddar botensial i gywiro gwendidau yng nghynllunio a rheoli buddsoddiadau cyfalaf, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru

Er y gwnaed gwelliannau sylweddol i'r ystad ysgolion yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mae llawer o waith i'w wneud o hyd cyn y bydd pob adeilad ysgol yng Nghymru yn addas at y diben.

Canfu'r adroddiad heddiw fod y gwaith o gynllunio buddsoddiadiadau cyfalaf mewn ysgolion yn effeithiol wedi'i lesteirio mewn nifer o awdurdodau lleol gan ddiffyg gwybodaeth ddibynadwy am gyflwr adeiladau ysgol ac amharodrwydd i wneud penderfyniadau am resymoli ysgolion yn dilyn cwymp yn nifer y disgyblion.

Yn sgîl diffyg buddsoddiad cyfalaf mewn adeiladau ysgolion a lefel gwan o waith cynnal a chadw, yn arbennig yn ystod y 1980au a'r rhan fwyaf o'r 1990au, cafodd rhai ystadau ysgolion yng Nghymru eu gadael mewn cyflwr gwael ac nid ydynt yn gymwys i ddarparu'r cwricwlwm modern. Er bod ysgolion newydd yn y rhan fwyaf o Gymru yn awr, prin yw nifer y cynghorau sydd â dealltwriaeth glir o sut y byddant yn ariannu'r gwelliannau angenrheidiol i weddill eu hysgolion. Nid oes gan rai awdurdodau lleol ddigon o adnoddau nac arbenigedd i gyflawni rhaglen buddsoddi cyfalaf ddigon mawr.

Yn 2003, pennodd Llywodraeth y Cynulliad darged i bob ysgol fod yn 'addas at y diben' erbyn 2010 ac ymrwymodd i fuddsoddi £560 miliwn rhwng 2004-05 a 2007-08 a chynnal lefelau uchel o fuddsoddi hyd ddiwedd y degawd. Fodd bynnag, dim ond yn nhermau eang y diffiniwyd yr amcan i wneud pob ysgol yn 'addas at y diben', ac felly roedd ansicrwydd ynghylch pa safon y dylai awdurdodau lleol geisio ei chyrraedd mewn perthynas ag adeiladau ysgol.

Nododd Llywodraeth y Cynulliad hefyd ei bod yn disgwyl i gynlluniau rheoli asedau addysg fod ar waith erbyn 2003, ond nad oedd gan nifer sylweddol o awdurdodau lleol gynlluniau rheoli asedau cadarn ar waith ar adeg ein harchwiliad yn ystod 2008-09. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan Lywodraeth y Cynulliad ddigon o wybodaeth ddibynadwy i'w galluogi i dargedu grantiau at ardaloedd lle'r oedd yr angen mwyaf. Nid oedd yn gallu asesu'n ddigonol y cynnydd a wnaed o ran cyflawni ei hamcanion ar gyfer gwella adeiladau ysgol ychwaith.

Er gwaethaf hyn, mae polisi Llywodraeth y Cynulliad o wella adeiladau ysgol ac argaeledd arian grant wedi gwella amgylchedd gwaith nifer fawr o ddisgyblion ac athrawon yng Nghymru. Ac er i'r adroddiad gyfeirio at wendidau yn y gorffennol o ran y broses o gynllunio a rheoli gwariant cyfalaf mewn ysgolion, gall newidiadau diweddar a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, rhai ohonynt mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ddatrys y sefyllfa hon.

Er enghraifft, o dan y rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, caiff arian grant ei ddyrannu bellach i brosiectau penodol cyn ei ryddhau i awdurdodau lleol, ac mae'n targedu'r awdurdodau hynny sy'n llunio cynlluniau strategol a ystyriwyd yn dda. Hefyd, ym mis Mai 2009, ysgrifennodd Llywodraeth y Cynulliad a CLlLC at awdurdodau lleol yn cynnig cymorth iddynt ar ffurf arolygu adnoddau i ddwyn ynghyd y data rheoli asedau sydd ei angen i gynllunio'r rhaglen buddsoddi cyfalaf mewn ffordd effeithiol. Gallai hyn wella ansawdd a chysondeb y wybodaeth sydd ar gael am gyflwr ac addasrwydd yr ystad ysgolion ledled Cymru.

Bellach, mae Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) y Cynulliad, awdurdodau lleol ac ysgolion yn cydweithio'n fwy. Ac mae'r broses o ad-drefnu APADGOS yn fewnol wedi dwyn ynghyd y gwaith o reoli cyllid cyfalaf ar gyfer rhaglenni meithrin addysg cyn 16 ac ôl 16 ac wedi ychwanegu arbenigedd technegol i'r tîm o swyddogion.

Mae'r adroddiad heddiw yn nodi nifer o argymhellion i Lywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys:

  • Datblygu fframwaith i werthuso effaith prosiectau adeiladu ysgolion mawr, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio'r fframwaith gwerthuso a dadansoddi'r data a gafwyd i asesu effaith gyffredinol arian grant;
  • Pennu meini prawf addasrwydd cliriach ar gyfer adeiladau a chyfleusterau ysgol ac adolygu'r meini prawf yn sgîl deddfwriaeth newydd;
  • Pennu amserlenni cliriach ar gyfer cyflawni rhaglenni buddsoddi cyfalaf;
  • Targedu arian at awdurdodau sy'n ystyried cyfleoedd i resymoli lle nad yw nifer y disgyblion yn cyfateb i nifer y lleoedd.

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Gillian Body:

"Mae llawer o waith wedi cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yr ystad ysgolion yng Nghymru yn cyrraedd y safon, ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi cael budd o amgylchedd gwaith llawer gwell. Fodd bynnag, bu gwendidau yn y broses o reoli a gwerthuso'r rhaglen buddsoddi cyfalaf ar gyfer ysgolion, ac mae llawer o adeiladau yn dal i fod mewn cyflwr gwael. Mae newidiadau diweddar a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn darparu sail fwy cadarn ar gyfer y dyfodol - er ei bod yn rhy gynnar i werthuso eu heffaith."

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae'r adroddiad hwn yn ystyried p'un a yw'r rhaglen buddsoddi cyfalaf mewn ysgolion wedi'i rheoli yn y ffordd orau posibl.
  • Cwblhawyd gwaith maes ar gyfer yr astudiaeth hon yn ystod 2008-09. Ers hynny, bu nifer o ddatblygiadau a allai wella'r broses o reoli'r rhaglen buddsoddi cyfalaf. Yn arbennig, cafodd y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sydd wedi gwella'r broses o dargedu arian grant, ei lansio'n ffurfiol ym mis Mawrth 2010. Mae'r casgliadau a'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn yn ystyried y datblygiadau diweddar hyn.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £20 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>