Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
10/10/2011
The four main inspection, audit and regulatory bodies in Wales are launching a joint website today
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn lansio'r wefan Arolygu Cymru, er mwyn helpu aelodau o'r cyhoedd a'r sefydliadau y maent yn eu harchwilio a'u hadolygu i ddeall yn well sut maent yn cydweithio â'i gilydd.
Sefydlwyd y wefan yn dilyn y cytundeb strategol a lansiwyd gan y pedair arolygiaeth ym mis Mawrth 2011 i roi hwb i drefniadau cydweithio.
Y nod yw y bydd y wefan yn un pwynt cyswllt i ddinasyddion sydd am wybod mwy am sut mae cyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio yn cydweithio i ddarparu mwy o sicrwydd cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y rhai sy'n ymweld â'r wefan yn gallu dilyn dolenni i adroddiadau ar y cyd a gyhoeddwyd gan y cyrff, gan gynnwys yr adroddiad a gyhoeddwyd wythnos ddiwethaf gan Estyn, AGGCC, AGIC, Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (ACEM), sef "Joint Inspection of local safeguarding children's boards in Wales".
Caiff y wefan ei datblygu'n barhaus ar y cyd gan staff y prosiect a benodwyd i helpu i ddatblygu trefniadau cydweithio rhwng y pedwar sefydliad, a thimau cyfathrebu pob un o'r sefydliadau.
Dywedodd llefarydd ar ran y pedwar sefydliad:
"Mae lansiad gwefan Arolygu Cymru yn adeiladu ar ymrwymiad y pedwar corff arolygu, archwilio a rheoleiddio yng Nghymru i roi hwb i drefniadau cydweithio. Mae'n ffynhonnell o wybodaeth i ddinasyddion sy'n egluro sut mae'r sefydliadau yn cydweithio, beth maent yn cydweithio arno, a sut mae eu cydweithio yn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru."
Nodiadau i Olygyddion:
Ynghylch AGGCC
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn annog y gwaith o wella gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu, adolygu a rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisi. Cyflawnwn ein swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, ac er ein bod yn rhan o Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru, mae nifer o fesurau diogelwch ar waith i sicrhau ein hannibyniaeth weithredol. Nod ein Gweledigaeth a'n Gwerthoedd yw sicrhau bod profiadau defnyddwyr gwasanaethau wrth wraidd ein gwaith. Ein dyletswydd yw rhoi sicrwydd i ddinasyddion Cymru o ran ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy ein harolygiadau. Y sawl sy'n comisiynu ac yn darparu gwasanaethau o fewn gofynion y ddeddfwriaeth a pholisïau'r llywodraeth sy'n gyfrifol am wella'r gwasanaethau hynny. Mae arolygiadau AGGCC yn rhoi atebolrwydd i'r cyhoedd a dysgu i randdeiliaid drwy enghreifftiau a gwelliannau parhaus i wasanaethau.
Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan
Ynghylch Estyn
Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw sicrhau rhagoriaeth i bawb ym maes dysgu yng Nghymru. Gwnawn hyn drwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chynghori annibynnol o ansawdd uchel. Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod drwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ond cawn ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan
Ynghylch AGIC
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw'r corff annibynnol sy'n gyfrifol am arolygu a rheoleiddio gofal iechyd yng Nghymru. Prif ffocws AGIC yw:
• Gwneud cyfraniad sylweddol at y gwaith o wella diogelwch ac ansawdd gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
• Gwella profiad dinasyddion o ofal iechyd yng Nghymru boed hynny fel claf, defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr, perthynas neu gyflogai.
• Atgyfnerthu llais cleifion a'r cyhoedd o ran y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu hadolygu.
• Sicrhau bod gwybodaeth amserol, defnyddiol, hygyrch a pherthnasol am ddiogelwch ac ansawdd gofal iechyd yng Nghymru ar gael i bawb.
• Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan
Ynghylch Swyddfa Archwilio Cymru
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £20 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
• Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
• Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan
• Ewch i wefan Arolygu Cymru yn www.arolygucymru.com
• I weld Cydweithio er mwyn Cefnogi Gwelliannau - Cytundeb Strategol rhwng AGGCC, Estyn, AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru, cliciwch yma
• I weld Datblygu Ein Gwaith Gyda'n Gilydd mewn Hinsawdd o Newid, papur ar arolygu, archwilio a rheoleiddio yng Nghymru a ddatblygwyd ar y cyd gan AGGCC, Estyn, AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru, cliciwch yma