Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Cymru'n rheoli ei chyllid yn gywir ond mae dal i fod lle i wella
30/06/2005
Mae Archwiliwr Cyffredinol Cymru'n dweud ar y cyfan y ceir safonau uchel o reolaeth ariannol gan lywodraeth ganolog yng Nghymru ond mae galwadau newydd a chyllidebau cynyddol yn mynnu rhagor o welliant.
Heddiw, bydd Archwiliwr Cyffredinol newydd Cymru, Jeremy Colman yn cyhoeddi ei adroddiad ariannol cyntaf ar archwiliad ariannol y Cynulliad a chyrff cyhoeddus perthynol ac eithrio’r GIG.   Mae’r adroddiad hwn yn archwilio safon archwiliadau cyfrifon ar gyfer y flwyddyn 2003-4 ac yn mynd ar drywydd adroddiad y llynedd sef caffael a Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

Mae’r Archwiliwr Cyffredinol yn adrodd bod safonau rheolaeth ariannol ac uniondeb yng Nghymru'n uchel.  Mae cyrff a archwilir wedi gwneud cynnydd da yn y ffordd y maent yn rheoli eu hadnoddau ariannol a bu datblygiadau cadarnhaol ym maes caffael sector cyhoeddus yng Nghymru.  Fodd bynnag, mae hefyd yn adrodd bod angen i gyrff cyhoeddus o fewn y sector llywodraeth ganolog yng Nghymru wneud defnydd gwell ar wybodaeth gyfrifyddol a pharhau i gryfhau rheolaeth ariannol ar brosiectau a ariennir gan Ewrop.

 Dywedodd Archwiliwr Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, heddiw:

“Wrth i gyllideb bloc Cymru barhau i dyfu, felly hefyd y mae pwysigrwydd rheolaeth ariannol effeithiol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gyrff perthynol yn tyfu. Mae’n galondid gweld bod safonau uchel blaenorol uniondeb yn parhau. Gall dinasyddion yng Nghymru fod yn hyderus y paratoir y datganiadau ariannol blynyddol yn gywir ac y defnyddir adnoddau ariannol at eu pwrpasau arfaethedig.  Fodd bynnag, mae angen mawr am sicrhau y paratoir cyfrifon diwedd y flwyddyn yn brydlon ac yn effeithiol a bod llywodraeth ganolog yng Nghymru’n gwybod yn gyson am alwadau lu cyllideb sy'n tyfu'n gyflym a fframweithiau ariannol sy’n gofyn am fwy o hyd.   Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn rhaid imi dalu teyrnged i gyfraniad fy rhagflaenydd Syr John Bourn a oedd yn ei swydd pan archwiliwyd y cyfrifon hyn.”

 Nodiadau i Olygyddion:

·          General Report of the Auditor General for Wales 2005: Financial audit of central government bodies in Wales ar 30 Mehefin 2005 ac mae ar gael ar y wefan ar http://www.wao.gov.uk/.

·         Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwiliad blynyddol o ryw £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

·          Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1af Ebrill 2005 o ganlyniad i basio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilwr Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth ef.

Diwedd

 Am ragor o wybodaeth cysylltwch â tîm y wasg ar 029 2026 2675.

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru