|
Ymddengys mai rheolaeth ariannol wael oedd prif achos cwymp Asiantaeth Fenter Leol yng Ngogledd Cymru, a effeithiodd ar fywydau cannoedd o bobl, yn ôl Jeremy Colman, Archwiliwr Cyffredinol Cymru. Ond, yn ei adroddiad a gyhoeddir heddiw, mae hefyd yn amlygu’r diffyg cyfathrebu gan y Cynulliad a chyrff sector cyhoeddus eraill yng Nghymru o ran prosiectau a ariannir yn gyhoeddus.
Sefydlwyd Antur Dwyryd-Llyn Cyf yn 1998, a bu’n darparu cyngor ar fusnes a hyfforddiant i gymunedau yng Ngwynedd. Ond arweiniodd ei gwymp ym Medi 2004 at golli 45 o swyddi, dyledion o £500,00 rhwng 320 o gredydwyr a methu talu £600,000 arall i Gyllid y Wlad.
Mae adroddiad heddiw’n dod i’r casgliad, er bod y cwmni’n dibynnu’n bennaf ar gontractau a grantiau oddi wrth y sector cyhoeddus yng Nghymru i oroesi, nad oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r cyrff a noddir ganddo ar fai am gwymp Antur Dwyryd-Llyn. Yn hytrach, mae'r adroddiad yn pwyntio at yr hyn sy’n ymddangos yn rheolaeth fewnol wael a chamreolaeth, perfformiad gwael contractau ac ansefydlogrwydd ariannol o fewn y cwmni.
Yn ôl yr adroddiad, ymddengys fod Antur Dwyryd-Llyn wedi gorymestyn gyda rhai prosiectau ac wedi dioddef o broblemau llif arian. Roedd yn dibynnu’n ormodol ar ddefnyddio ei harian ei hun fel arian cyfatebol1 heb gael sicrwydd cadarn o help dilynol oddi wrth gyrff cyhoeddus, megis Cronfeydd Adfywio Lleol neu Lwybrau at Ffyniant.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg cyfathrebiad rhwng ac yn Llywodraeth y Cynulliad a’r cyrff a noddir ganddo wrth ddelio ag Antur Dwyryd-Llyn. Er na fu hyn yn ffactor ynghylch cwymp y cwmni, mae'r Archwiliwr Cyffredinol yn argymell y dylai cyrff cyhoeddus sy’n ymwneud â chyllido a goruchwylio prosiectau o’r fath rannu gwybodaeth er mwyn diogelu cronfeydd cyhoeddus a galluogi trin ceisiadau am grantiau'n gywir ac yn brydlon.
Dywedodd Yr Archwiliwr Cyffredinol, Jeremy Colman, heddiw:
“Gellir dysgu gwersi pwysig o gwymp Antur Dwyryd-Llyn. Gall rheolaeth wael ar arian mewn cwmnïau sy’n darparu hyfforddiant a chymorth hanfodol i’r gymuned wneud difrod helaeth: nid y cyfranddalwyr yn unig fydd ar eu colled. Mae cyfathrebiad cyflym ac effeithiol rhwng cyrff cyllido ac ymgeiswyr hefyd yn hanfodol ac mae angen i Lywodraeth y Cynulliad wneud gwelliannau yn hyn o beth."
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae’r adroddiad hwn yn archwilio'r contractau a ddyfarnwyd a'r grantiau a dalwyd i Antur Dwyryd-Llyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad
- Cynhaliwyd yr archwiliad yn dilyn gohebiaeth at Archwiliwr Cyffredinol Cymru blaenorol, Syr John Bourn, gan ddau AC, yn gofyn am asesiad o’r materion y tu ôl i fethiant ariannol y cwmni.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwiliad blynyddol o ryw £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
- Crëwyd SAC ar 1af Ebrill 2005 o ganlyniad i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwiliwr Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth ef.
1Ni ellir cyllido prosiectau’n gyfan gwbl gydag arian o’r Gronfa Strwythurol Ewropeaidd. Rhaid i noddwr y prosiect godi'r gweddill a gelwir hwn yn arian cyfatebol. Gall arian cyfatebol ddod o adnoddau’r ymgeisydd ei hunan neu o ffynonellau ariannu cenedlaethol, sef y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a'r Cyfryngau) ar 02920 262 675. Mae copi o’r adroddiad ar gael ar wefan SAC www.wao.gov.uk
|