|
Heddiw croesawodd Archwilydd Cyffredinol Cymru gyhoeddiad gan Sue Essex, y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chyllid, ynglyn ag adroddiad diweddar ar reoleiddio ac arolygu gwasanaethau cyhoeddus.
Heddiw dywedodd Jeremy Colman, yr Archwilydd Cyffredinol
“Rhannaf ymrwymiad y Gweinidog i system rheoleiddio ac arolygu well, a chymeradwyaf farn yr adroddiad fod Swyddfa Archwilio Cymru ar ei newydd wedd yn gam cadarnhaol o ran cydlynu gwaith rheoleiddio ac arolygu yng Nghymru. Fel un corff archwilio ac arolygu, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnig ymagwedd fwy syml ac effeithiol tuag at graffu ar y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Ni ddylai cyrff arolygu gymysgu annibyniaeth ag arwahanrwydd - p’un ai mewn perthynas â chyrff a archwilir neu ei gilydd. Mae SAC yn ymrwymedig i weithio gyda phob archwilydd, arolygydd a rheoleiddiwr arall i ddarparu’r grym fwyaf posibl ar gyfer gwella, tra’n cynnal atebolrwydd priodol darparwyr gwasanaethau cyhoeddus.”
Nodiadau i Olygyddion:
- Gwnaed datganiad y Gweinidog, yn ystod sesiwn lawn y Cynulliad heddiw, mewn ymateb i 21 o argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus “Ymchwiliad i’r Drefn o Reoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru”, a gyhoeddwyd ym mis Mai.
- Cynhaliwyd ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystod 2004 a 2005. Cyfrannodd y Comisiwn Archwilio yng Nghymru (sef y sefydliad a ragflaenodd SAC) i’r ymchwiliad, gan ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae’n gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
- Crëwyd SAC ar 1af Ebrill 2005 yn sgîl pasio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru a’i gwneud yn bosibl i drosglwyddo staff y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’n tîm y wasg ar 02920 262 675 neu ewch i wefan SAC – www.wao.gov.uk
|