|
Methodd Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd (BILl) asesu a rheoli’n effeithiol y risgiau posibl pan ddyfarnodd gontract am y gwasanaeth allan o oriau meddygon teulu i gwmni newydd ei ffurfio, yn ôl Jeremy Colman, Archwiliwr Cyffredinol Cymru. Fodd bynnag, ar y cyfan, darganfu fod y broses tendro a gosod contract yn gadarn ac yn deg.
Mae adroddiad yr Archwiliwr Cyffredinol, a gyhoeddir heddiw, yn dod i’r casgliad, er y gwnaed y penderfyniad i ddyfarnu’r gwasanaeth i Clinical Solutions UK/Europe Ltd (CSUK) yn Ebrill 2004 yn dilyn proses ddethol gadarn, nad oedd y gwiriadau i gefndir ariannol a phrofiad clinigol y cwmni'n ddigon trylwyr.
Mae’r adroddiad hefyd yn feirniadol o benderfyniad y BILl i ddyfarnu rhyw £59,000 ychwanegol i CSUK er mwyn hurio rhagor o nyrsys ar y penwythnosau. Mae’n cydnabod mai prif bryder y BILl wrth ddyfarnu cyllid ychwanegol oedd gwarchod diogelwch cleifion, ond daw i'r casgliad, o dan delerau'r contract, y dylai'r costau fod wedi cwympo ar CSUK. Mewn gwirionedd, roedd y BILl yn talu cyllid ychwanegol i CSUK am wasanaethau yr oedd rheidrwydd cytundebol eisoes arno eu darparu.
Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys galwadau am i fyrddau iechyd lleol:
· adolygu eu gweithdrefnau i sicrhau bod y Bwrdd llawn yn cymeradwyo, neu o leiaf yn cadarnhau, dyfarnu contractau sydd â risgiau sylweddol;
· monitro lefelau gweithgaredd yn erbyn y rhai a gyflwynir yn eu contractau allan o oriau, a sefydlu protocolau cadarn i asesu hawliadau ar gyfer cyllid ychwanegol;
· datblygu cynlluniau rheoli risgiau ac argyfwng i rwystro a rheoli unrhyw fethiannau yn y ddarpariaeth gwasanaeth.
Mae hefyd argymhellion y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru:
· adolygu’r contract model ar gyfer gwasanaethau allan o oriau a datblygu darpariaethau ar gyfer delio â newidiadau mewn galw;
· cyfeirio byrddau iechyd lleol at arweiniad priodol ar y gwiriadau y dylent eu gwneud i fodloni eu hunain fod gan gwmni'r gallu a’r profiad ariannol i gyflawni gwasanaethau.
Dywedodd Archwiliwr Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, heddiw:
“Mae’n glir i Fwrdd Iechyd Lleol Caerdydd ddilyn proses tendro gadarn wrth ddyfarnu ei gontractau allan o oriau meddygon teulu. Ond mae f'adroddiad wedi nodi diffygion yn rheolaeth y BILl o risgiau allweddol sy’n gysylltiedig â dyfarnu’r contract i gwmni newydd a’i reolaeth ddilynol o’r contract hwnnw. Mae gwersi i'w dysgu i bob bwrdd iechyd lleol yn yr adroddiad hwn. Bydd f’argymhellion yn helpu i sicrhau, yn y dyfodol, y bydd dyfarnu a rheoli contractau gwasanaethau allan o oriau meddygon teulu yn gadarn ac yn dryloyw."
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae'r adroddiad hwn yn ymchwilio i a oedd broses tendro a gosod contractau yn gadarn ac a oedd cyfiawnhad dros y taliadau ychwanegol a wnaed i CSUK. Prynwyd CSUK gan Serco plc ym mis Mawrth 2005.
- Nid yw’n ymchwilio i ansawdd y gwasanaeth allan o oriau. Bydd ymchwiliad gwerth am arian arfaethedig yr Archwiliwr Cyffredinol i gontract Gwasanaethau Meddygol Teuluol yng Nghymru, yr ydym yn bwriadu cychwyn arno’n ddiweddarach yn 2005, yn mynd i’r afael â materion ansawdd gwasanaeth.
- Deilliodd yr astudiaeth hon o ohebiaeth a anfonwyd at Archwiliwr Cyffredinol Cymru blaenorol, a fynegodd bryderon ynghylch dyfarnu a rheoli’r contract allan o oriau.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio rhyw £19 biliwn o wariant cyhoeddus yn flynyddol.
- Crëwyd SAC ar 1af Ebrill 2005 o ganlyniad i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwiliwr Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff oddi wrth y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol i’w gyflogaeth ef.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a'r Cyfryngau) ar 02920 262 675 neu anfonwch e-bost at rachel.harries@wao.gov.uk
Mae copi o’r adroddiad ar gael ar wefan SAC www.wao.gov.uk
|