Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Diogelu staff Ymddiriedolaethau’r GIG rhag trais ac ymddygiad ymosodol
22/09/2005
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn galw am fwy o waith monitro ac ymdrin â digwyddiadau’n well
Bob diwrnod roedd tua 22 o achosion o drais ac ymddygiad ymosodol yn erbyn staff y GIG yng Nghymru yn ystod 2003/04, yn ôl ffigurau newydd Swyddfa Archwilio Cymru. Amcangyfrifa adroddiad, a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, fod costau blynyddol darparu staff cyflenwi, biliau cyfreithiol, hyfforddiant a diogelwch yn fwy na £6 miliwn.

Mae Ymddiriedolaethau’r GIG a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymryd nifer o gamau cadarnhaol i fynd i’r afael â’r broblem. Ymhlith y rhain mae datblygu’r Pasbort Trais ac Ymddygiad Ymosodol (gweler Nodiadau i Olygyddion) ac mae Ymddiriedolaethau’r GIG wedi buddsoddi £1 miliwn y flwyddyn mewn hyfforddi staff. Fodd bynnag, dywed yr adroddiad y gellir gwneud mwy a noda sawl problem y mae angen mynd i’r afael â hi o hyd. Er enghraifft, mae rhannu gwybodaeth am droseddwyr hysbys rhwng Ymddiriedolaethau yn peri problemau a cheir tystiolaeth bod rhai Ymddiriedolaethau yn ei chael hi’n anodd rhyddhau staff ar gyfer hyfforddiant pwysig.

Mae’r adroddiad “Diogelu staff Ymddiriedolaethau’r GIG rhag trais ac ymddygiad ymosodol” yn cyflwyno’r data cyntaf ar gyfer Cymru gyfan ar nifer y digwyddiadau o drais ac ymddygiad ymosodol a gofnodwyd yn y blynyddoedd ariannol rhwng 2001/02 a 2003/04. Canfu fod nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn profi lefelau uwch o drais ac ymddygiad ymosodol nag aelodau eraill o staff. Hefyd, ceir nifer fawr o ddigwyddiadau yn y sector iechyd meddwl, y sector meddygaeth gyffredinol a’r sector anableddau dysgu. Gallai’r ffigurau fod hyd yn oed yn uwch oherwydd tan-gofnodi a’r diffiniadau anghyson o drais ac ymddygiad ymosodol a ddefnyddir gan Ymddiriedolaethau’r GIG.

Mae’r adroddiad yn gwneud naw argymhelliad o dan y penawdau canlynol:      

  • dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Ymddiriedolaethau fynd i’r afael â meysydd risg uchel;
  • dylai Ymddiriedolaethau atgyfnerthu eu trefniadau ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am ddigwyddiadau;
  • unwaith y rhoddir systemau cadarn ar waith, dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Ymddiriedolaethau fonitro lefelau o drais ac ymddygiad ymosodol;
  • dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Ymddiriedolaethau wella mynediad staff i hyfforddiant. 

Heddiw dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman:

“Mae gwella diogelwch staff eisoes yn flaenoriaeth uchel i Ymddiriedolaethau’r GIG a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ond mae angen gwneud gwelliannau i’r broses o ymdrin â digwyddiadau, darparu hyfforddiant a gweithio’n rhyngasiantaethol, fel y gall staff y GIG yng Nghymru barhau i gyflawni’r gwaith hanfodol a wnânt yn y gymuned, heb ofni bygythiadau ac ymosodiadau.”                     

Nodiadau i Olygyddion:

  • Y GIG yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru ac mae ganddo ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu ei staff. Mae trais ac ymddygiad ymosodol nid yn unig yn cael effaith emosiynol a chorfforol ar ddioddefwyr unigol, ond gall y canlyniadau, megis straen ac absenoldebau staff, rwystro’r gwaith o ofalu am gleifion ac arwain at gostau ariannol sylweddol.
  • Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar bob math o drais, boed yn defnyddio iaith ddifrïol neu’n ymosodiad corfforol, yn erbyn pob aelod o staff o fewn Ymddiriedolaethau’r GIG a gyflawnir gan gleifion, eu ffrindiau a’u perthnasau. Mae’n cynnwys staff Ymddiriedolaethau’r GIG ond nid yw’n cynnwys Byrddau Iechyd Lleol na gwasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir gan feddygon teulu a’u staff. Fodd bynnag, mae’n cynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Powys, am ei fod hefyd yn darparu gwasanaethau aciwt a chyfeiriwn ato fel un o Ymddiriedolaethau’r GIG.
  • Mae Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru yn cyflogi dros 87,000 o aelodau o staff, sy’n cyfateb â dros saith y cant o’r gweithlu yng Nghymru.
  • Yn 2003/4, cofnododd staff Ymddiriedolaethau’r GIG 7,971 o ddigwyddiadau o drais ac ymddygiad ymosodol, sy’n cyfateb â 22 o ddigwyddiadau yn cymryd lle bob diwrnod rywle yng Nghymru.
  • Ym mis Medi 2004, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru “Pasbort Hyfforddi a Chynllun Gwybodaeth Trais ac Ymddygiad Ymosodol y GIG i Gymru Gyfan”. Datblygwyd y pasbort gan staff GIG Cymru ac mae’n rhoi arweiniad manwl mewn meysydd allweddol ac yn lleihau’r risg o ddyblygu hyfforddiant.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae’n gyfrifol am gynnal archwiliadau blynyddol o oddeutu £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1af Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru gan ei gwneud yn bosibl i drosglwyddo staff y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu) ar 02920 262 675.

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru