|
Mae perygl na fydd gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion ledled Cymru yn cyrraedd safonau ac yn cyflawni targedau allweddol a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman. Mae ei adroddiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn amlygu problemau gyda’r ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio, eu trefnu a’u monitro ar hyn o bryd – problemau sy’n peryglu llwyddiant Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Llywodraeth y Cynulliad.
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi nifer o enghreifftiau o arfer da, ond yn gyffredinol canfu fylchau sylweddol yn y ffordd y cyflwynir gwasanaethau iechyd meddwl. Mae angen i’r asiantaethau sy’n gyfrifol am gynllunio a chyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl gydweithio i ddatblygu ystod fwy cynhwysfawr o wasanaethau i ddiwallu anghenion amrywiol a chymhleth defnyddwyr gwasanaethau. Mae hefyd angen adolygu’r trefniadau ariannu presennol i sicrhau y datblygir gwasanaethau yn yr hir dymor.
Noda’r adroddiad fylchau yng ngwasanaethau cymunedol sy’n gallu darparu opsiwn arall i dderbyn cleifion i’r ysbyty. Mae hefyd yn galw am fwy o gydweithio rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau cyfiawnder troseddol a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol. Mae hyfforddiant ar gyfer Meddygon Teulu a staff eraill practisau yn fater sy’n galw am sylw ar frys, i’w gwneud yn llawn ymwybodol o sut i adnabod problemau iechyd meddwl a’u trin yn y ffordd orau. Un o gasgliadau eraill yr adroddiad yw y dylai rhai cleifion gael mwy o ddewis o ran eu gofal a chael gwell mynediad i gyngor a gwybodaeth.
Tra bod iechyd meddwl wedi’i nodi fel un o flaenoriaethau iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru, dengys yr adroddiad fod yr angen am welliannau yn parhau, a gwna nifer o argymhellion.
Mae’r argymhellion yn cynnwys
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru:
- Sicrhau bod trefniadau ariannu yn cynorthwyo’r broses o ddatblygu gwasanaethau yn yr hirdymor a bod arbedion effeithlonrwydd yn y sector iechyd meddwl oedolion yn cael ei hailfuddsoddi mewn gwasanaethau;
- Datblygu arweiniad ar gomisiynu gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion ar y cyd gan gyrff y GIG, awdurdodau lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru;
- Cyhoeddi arweiniad polisi manylach mewn nifer o feysydd allweddol i gynllunwyr, comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau.
Dylai cynllunwyr a darparwyr gwasanaethau:
- Ddatblygu ymagwedd “system-gyfan” i iechyd meddwl;
- Cynyddu mentrau sy’n canolbwyntio ar hybu iechyd meddwl ac ymyrryd yn gynnar;
- Ailfodelu gwasanaethau i ddarparu mwy o ofal cymunedol ac i ategu a gwella hyfforddiant ar gyfer Meddygon Teulu a staff practisau.
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:
“Mae gan wasanaethau i oedolion gydag anghenion iechyd meddwl gryn dipyn i’w gyflawni. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddefnyddio canfyddiadau’r adroddiad hwn, ac adolygiadau allanol eraill, i ddatblygu ymagwedd gliriach ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn derbyn gofal o’r ansawdd y maent yn ei haeddu.”
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys canfyddiadau adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru. Fe’i gynhaliwyd gan y corff a ragflaenodd Swyddfa Archwilio Cymru, sef y Comisiwn Archwilio yng Nghymru.
- Comisiynwyd yr adolygiad hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r bwriad o wella gwasanaethau iechyd meddwl ar draws Gymru. Mae’n archwilio p’un a yw gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru yn cynorthwyo’r gwaith o gyrraedd safonau Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol y Cynulliad.
- Darpara Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â’r agenda gwella safonau ac ansawdd ar draws sectorau gofal iechyd. Cânt eu gweithredu mewn partneriaeth â gofal cymdeithasol a sefydliadau eraill.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae’n gyfrifol am gynnal archwiliadau blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
- Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 trwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru gan ei wneud yn bosibl i drosglwyddo staff y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i’w chyflogaeth.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu) ar 02920 262 675 neu ebostiwch rachel.harries@wao.gov.uk
|