Rhoddwyd miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ond, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, gallai rhai o’r cyrff cyhoeddus sy’n ariannu’r prosiect wedi gwneud mwy i fynd i’r afael â’r risgiau ynghlwm. Mae ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw, yn dod i’r casgliad y gallai’r cyrff cyhoeddus hynny fod wedi gweithio gyda’i gilydd yn fwy i rannu gwybodaeth - ni ddigwyddodd hyn nes bod yr Ardd yn agos at gau oherwydd mynd dros ei therfyn gorddrafft.
Agorodd yr Ardd ym mis Mai 2000, ac er gwaethaf mynychiad da yn y ddwy flynedd gyntaf cafodd broblemau oherwydd costau gweithredu oedd yn uwch na’r disgwyl, a gwaethygwyd y sefyllfa wedyn gan gwymp yn nifer yr ymwelwyr. Mae Canolfan Wyddoniaeth, yn costio £3 miliwn, yn wag o hyd. Nid oes fawr o ymchwil wedi digwydd ynddi ac nid oes dim entrepreneuriaid wedi’u lleoli yno, er bod gwaith mewn perthynas â defnydd yr adeilad yn dod yn ei flaen.
Rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru, y WDA a Bwrdd Croeso Cymru gyllid i brosiect yr Ardd ac maent yn atebol am eu defnydd o arian cyhoeddus i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Er i’r tri chorff gynnal asesiadau risg a gwerthusiadau o gynlluniau busnes yr Ardd cyn dyfarnu arian, mae’r adroddiad yn dweud y gellir, mewn rhai achosion, fod wedi gwneud rhagor i fonitro a mynd i’r afael â’r peryglon.
Er enghraifft, dim ond ar un achlysur y cynhaliodd unrhyw un o’r cyllidwyr Cymreig eu dadansoddiad eu hunain o sensitifrwydd i asesu effaith amrywiadau ar ragolygon gweithredol yr Ardd, megis nifer yr ymwelwyr, incwm a gwariant disgwyliedig.
Hefyd, bu i’r adroddiad ddarganfod i rai cefnogwyr sector cyhoeddus ganolbwyntio eu sylw ar eu cyfraniadau cymharol fach eu hunain ac nad oeddent yn hollol ymwybodol o’r problemau ariannol oedd yn effeithio ar brosiect gyffredinol yr Ardd tan bron dwy flynedd ar ôl iddi agor.
Ers 2002, mae’r Ardd wedi derbyn cefnogaeth ariannol ychwanegol, gan gynnwys dros £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i gynorthwyo gyda chostau gweithredol. Mae strategaeth adfer a ddatblygwyd gan yr Ardd ac a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn y Mileniwm a Chyngor Sir Gaerfyrddin yn helpu i wella sefyllfa masnachu’r Ardd. Er enghraifft, yn 2004-05 roedd cyfanswm ei hymwelwyr yn fwy na’r targed.