|
Mae angen i Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru leihau eu defnydd o ynni mewn hinsawdd o gynnydd sylweddol mewn prisiau, rhybuddia Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru. Dengys ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw, fod y prisiau cyfartalog a dalwyd am drydan gan y prif ysbytai yng Nghymru wedi mwy na dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ond mae’r adroddiad yn canfod bod ymddiriedolaethau’r GIG yn ymdrechu i leihau faint o ynni a ddefnyddir ganddynt, gyda phum ymddiriedolaeth yn parhau i fod ymhell o gyflawni targedau cenedlaethol ar gyfer effeithlonrwydd ynni.
Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau, dibyniaeth ychwanegol ar TG a systemau awyru, ynghyd ag adeiladau sy’n heneiddio ac ôl-groniad cynnal a chadw sylweddol ymhlith rhai o’r rhesymau pam y dywed ymddiriedolaethau eu bod yn cael anhawster lleihau eu defnydd o ynni. Fodd bynnag, mae perfformiad ynni yn gwella yn yr ymddiriedolaethau hynny lle y cafodd ystadau ysbytai eu moderneiddio.
Caiff contractau ar gyfer yr holl nwy a thrydan a ddefnyddir gan ymddiriedolaethau’r GIG, fwy neu lai, eu rheoli gan Gyflenwadau Iechyd Cymru. Mae Ymddiriedolaethau wedi profi llwyddiannau cymysg o ran y prisiau y maent wedi eu talu am eu cyflenwadau ynni yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae Cyflenwadau Iechyd Cymru bellach wedi newid ei ymagwedd i geisio sicrhau gwerth am arian yn y tymor hwy. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar barnu llwyddiant y trefniadau hyn.
Mae’r adroddiad yn amlygu rhai camau cadarnhaol a gymerwyd eisoes gan ymddiriedolaethau i leihau defnydd a gwella effeithlonrwydd. Er enghraifft, mae pob safle ysbyty yng Nghymru bellach yn prynu trydan ‘gwyrdd’ adnewyddadwy, tra bo rhai ymddiriedolaethau wedi mynd i gryn drafferth i godi ymwybyddiaeth o effeithlonrwydd ynni ymysg staff. Ond canfu fod ymrwymiad i reoli ynni yn amrywio ledled Cymru ac, er gwaethaf tystiolaeth glir o gyfleoedd ar gyfer arbed, mae pwysau ariannol byrdymor yn golygu bod y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau wedi gwneud buddsoddiad cymharol fach mewn mesurau arbed ynni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn wahanol i weddill y DU, nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu rhaglen ariannu benodol ar gyfer prosiectau arbed ynni ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol bellach wedi neilltuo arian penodol fel rhan o’i Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf i hyrwyddo buddsoddiad mewn mesurau arbed ynni.
Mae’r adroddiad yn gwneud 11 o argymhellion ar gyfer gwella, gan gynnwys galwadau am y canlynol:
- gwelliannau pellach yn y gwaith o fonitro a thargedu defnydd o ynni;
- ymddiriedolaethau i adolygu mesurau, gan gynnwys cymhellion ariannol, i annog staff i ddefnyddio ynni yn effeithlon;
- ymddiriedolaethau i adolygu eu hymrwymiad i reoli ynni a chydweithio ag ymddiriedolaethau eraill;
- ymddiriedolaethau i gynnwys eu harweinydd rheoli ynni yn y gwaith o gynllunio a dylunio prosiectau adeiladu newydd neu adnewyddu ar raddfa fawr;
- Llywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu targedau sy’n ymwneud ag ynni ar gyfer y GIG.
Dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw:
“Wrth i brisiau ynni godi, mae’n rhaid i ymddiriedolaethau wella rheolaeth ynni. Dylent gynyddu eu hymdrechion i annog staff i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon, edrych ar gynlluniau i arbed ynni unwaith eto a chydweithio ag ymddiriedolaethau eraill. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru hefyd foderneiddio ei thargedau sy’n ymwneud ag ynni.”
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa un a yw ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru wedi llwyddo i reoli eu costau ynni yn ystod y blynyddoedd diwethaf a’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol, yn arbennig pa un a yw ymddiriedolaethau wedi sicrhau bargen dda wrth iddynt gaffael trydan a nwy ac wedi gwneud cynnydd da wrth leihau’r defnydd o ynni a gwella effeithlonrwydd ynni.
- Defnyddiodd y 15 o Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru fwy na 2.8 miliwn Gigajoule o ynni yn 2004-05, sy’n gyfwerth â defnydd blynyddol tua 32,000 o gartrefi, am gost o bron i £20 miliwn.
- Caiff Bwrdd Iechyd Lleol Powys ei gynnwys yn yr adroddiad hwn a chyfeirir ato fel ymddiriedolaeth gan ei fod yn darparu gwasanaethau gofal eilaidd.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae’n gyfrifol am gynnal archwiliadau blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
- Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac arweiniodd at drosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau) ar 02920 262 675 neu anfonwch e-bost at rachel.harries@wao.gov.uk
|