|
|
 |
|
| Argraffu'r Dudalen |
| Archif newyddion |
|
| Cyllid GIG yng Nghymru |
 |
|
18/09/2008
|
 |
| Mae adroddiad yr Archwiliydd Cyffredinol hefyd yn archwilio trefniadau rheoli ariannol |
 |
A yw'r trefniadau rheoli ariannol datganoledig yn GIG Cymru yn effeithiol?
Mae arwyddion clir bod y GIG yng Nghymru yn gwella'r modd y mae'n rheoli ei gyllid. Ond mae safonau yn amrywio gormod, ac mae rhai o gyrff y GIG yn wynebu heriau difrifol yn y dyfodol o ran mantoli'r gyllideb. Mae'r rhan fwyaf o gyrff y GIG yn gwarchod arian cyhoeddus yn effeithiol, gan bwysleisio rheolaeth, gonestrwydd, atebolrwydd a gofynion rheoliadol. Ond ar ddechrau cyfnod o newid mawr a gweithgarwch moderneiddio, ni all gweithgarwch rheoli ariannol chwarae ei rôl lawn eto o ran galluogi trawsnewid. Dyna gasgliad adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddir heddiw, sy'n gofyn y cwestiwn: A yw'r trefniadau rheoli ariannol dirprwyedig yn GIG Cymru yn effeithiol?
|
 |
|
|
|
|