Mae'r dull presennol o reoli effaith y môr yn gostus ac yn anghynaliadwy, dywed adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol. Derbynnir yn gyffredinol fod newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r risgiau i ardaloedd arfordirol oherwydd stormydd amlach a mwy difrifol ac am fod lefel y môr yn codi. Mae tua 60 y cant o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd arfordirol ac mae'r amcangyfrifon presennol yn dangos y bydd cost y difrod oherwydd llifogydd yn dyblu o leiaf, neu o bosibl yn cynyddu ugain gwaith dros yr 80 mlynedd nesaf. Nid yw maint y newid yn yr hinsawdd na'i ganlyniadau yn hysbys eto, felly rhaid i gynlluniau sydd wedi'u hanelu at leihau effaith llifogydd reoli risg yn hytrach na sicrwydd. Mae grwpiau a sefydliadau sy'n ymwneud â rheoli'r arfordir yn cydnabod yn gynyddol yr angen i newid at ddull rheoli risg newydd drwy weithio gyda natur a rheoli'r effaith ar yr amgylchedd.
Cliciwch yma am y datganiad i’r wasg cyflawn
|