Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
Mae gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai yng Nghymru wedi gwella ac mae llawer o gleifion yn fodlon ar y bwyd maent yn ei gael ond mae angen gwneud mwy i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal maethol sydd ei angen arnynt.
24/03/2011
Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg
Cliciwch yma i weld yr adroddiad
Cliciwch yma i weld y rhestr wirio ar gyfer aelodau bwrdd y GIG
Yn ôl yr adroddiad hwn heddiw mae gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai wedi gwella. Mae cleifion mewn llawer o ysbytai yng Nghymru yn cael cynnig dewis priodol o fwyd sydd o ansawdd da ac mae nyrsys yn ceisio clirio wardiau cyn i'r bwyd gyrraedd.
Mae amseroedd bwyd a ddiogelir, pan roddir taw ar unrhyw weithgarwch clinigol nad yw ar frys ar wardiau fel bod cleifion yn gallu cael eu bwyd heb i ddim byd dorri ar eu traws a bod nyrsys yn gallu eu helpu, yn dod yn beth mwy cyffredin. Mae mentrau polisi Llywodraeth y Cynulliad wedi nodi'r safonau gofal maethol y mae angen eu cyrraedd ac maent wedi annog prif nyrsys wardiau i fod yn fwy cyfrifol am drefniadau arlwyo ar eu wardiau. Yn yr adroddiad tynnir sylw at y ffaith bod gofal maethol cleifion yn well, a hynny'n anochel, pan fo nyrsys yn dangos arweinyddiaeth gadarn o'r fath.
Fodd bynnag, mae cryn dipyn o le i wella o hyd. Er bod y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu sgrinio am broblemau maethol, ni nodir gwybodaeth bwysig am statws maethol cleifion yn aml. Nid yw pob claf yn cael y cymorth sydd ei angen arno adeg prydau bwyd ac ni chofnodir yr hyn a fwyteir gan gleifion sy'n wynebu risg ymhob achos. Nododd yr adroddiad nad oes cynlluniau gofal ar gael ar gyfer cleifion â phroblemau maethol bob amser ac nad oedd y cleifion hyn yn cael eu cyfeirio at ddietegydd am asesiad mwy arbenigol ar bob achlysur. Hefyd nodwyd bod gwybodaeth ariannol am wasanaethau arlwyo yn wael fel rheol a bod angen iddi wella. Lle mae'r wybodaeth hon ar gael, dengys fod costau arlwyo yn amrywio'n sylweddol o un ysbyty i'r llall yng Nghymru. Mae'n costio rhwng £1.33 a £5.66 y dydd i fwydo claf tra bo gwasanaethau arlwyo nad ydynt ar gyfer cleifion - a ddarperir gan ysbytai at ddefnydd staff ac ymwelwyr - yn cael cymhorthdal sylweddol, heb yn wybod iddynt yn aml. Mae hefyd angen gwneud mwy i leihau'r gwastraff bwyd sy'n cael ei gynhyrchu, sy'n dal i fod yn annerbyniol o uchel ar sawl ward, a gallai llawer o ysbytai arbed symiau mawr iawn o arian drwy leihau'r gwastraff hwn i lefelau mwy derbyniol.
Mae'r adroddiad, Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai, sy'n dilyn gwaith blaenorol a wnaed gan y Comisiwn Archwilio yng Nghymru yn 2002, yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella, sy'n cynnwys:
• Yr angen i Lywodraeth y Cynulliad lunio a chyhoeddi dogfennaeth nyrsio safonol ar gyfer Cymru gyfan sy'n hyrwyddo trefniadau sgrinio maeth a chynllunio gofal cyson ac yn helpu i sicrhau bod meysydd pwysig, megis iechyd y geg, yn cael eu hystyried yn briodol
• Yr angen i gyrff y GIG archwilio cydymffurfiaeth â phob agwedd ar Lwybr Gofal Maethol Llywodraeth y Cynulliad, a llunio cynlluniau gweithredu clir i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau a nodir
• Yr angen i ddatblygu model costio clir ar gyfer gwasanaethau arlwyo cleifion a gwasanaethau arlwyo nad ydynt ar gyfer cleifion sy'n helpu i gymharu costau arlwyo ysbytai yng Nghymru mewn modd ystyrlon
• Llunio polisïau prisio clir ar gyfer gwasanaethau arlwyo nad ydynt ar gyfer cleifion; a
• Phennu targedau lleol a chenedlaethol ar gyfer gwastraff bwyd.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
"Mae'r bwyd a ddarperir mewn ysbyty yn chwarae rhan hanfodol yng ngwellhad ac adferiad y claf. Er bod fy adroddiad yn sôn am welliannau calonogol, mae hefyd yn dangos bod angen i ysbytai wneud mwy i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal maethol sydd ei angen arnynt. Rhaid i sefydliadau'r GIG gydnabod pwysigrwydd maeth cleifion a sicrhau bod systemau arwain effeithiol ar waith ar wardiau fel y gwelir arfer gorau."