Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
07/07/2011
cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad -Gwasanaethau Iechy Meddwl i Oedolion Adroddiad Atodol
Cliciwch yma i lawrlwytho'r Adroddiad Atodol ar Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion
Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg
Cliciwch yma i weld adroddiad 2005 yr Archwilydd Cyffredinol ar Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion
Cafwyd gwelliannau pwysig mewn gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion mewn sawl rhan o Gymru ers i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adolygiad sylfaenol yn 2005, er bod cynnydd wedi bod yn amrywiol ac mae rhai bylchau mewn gwasanaethau ac anghydraddoldebau yn parhau. Mewn adroddiad dilynol a gyhoeddir heddiw, mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru, cyrff y GIG a chynghorau yn wynebu rhai heriau newydd o ran datblygu gwasanaethau ymhellach.
Noda'r adroddiad fod adnoddau wedi'u trosglwyddo o wasanaethau cleifion mewnol i wasanaethau cymunedol a bellach mae gan lawer o ardaloedd ystod ehangach o wasanaethau cymunedol ar waith, er nad oes ganddynt adnoddau digonol bob amser ac nid oes cyswllt clir rhwng lefel a chymysgedd yr adnoddau a'r amrywiadau o ran angen mewn gwahanol rannau o Gymru.