|
Henffych Brifeirdd!

Eleni bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei gynrychioli ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf ers blynyddoedd maeth o’r 2il i’r 9fed Awst. Hyderwn y bydd ein stondin (cliciwch yma i weld map o’r maes a’n lleoliad) yn codi ymwybyddiaeth am ein gwaith i fudiadau eraill yng Nghymru ac i’r cyhoedd yn gyffredinol. Bydd nifer o aelodau staff y Swyddfa Archwilio yn gwarchod y stondin o ddeg y bore tan chwech o’r gloch y nos, yn barod i gynnig gwybodaeth am waith archwilio yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r trefniadau, cysylltwch â Catrin Siôn, Swyddog yr Iaith Gymraeg, ar 02920 320 577 neu e-bostiwch catrin.sion@wao.gov.uk Am wybodaeth pellach am yr Eisteddfod Genedlaetholyn gyffredinol dilynwch y linc yma http://www.eisteddfod.org.uk.
|