Banner

Digwyddiadau ar y gweill

Llwyddo gyda'ch Grantiau

Y Rhyl - 15 Mehefin a Chaerdydd - 22 Mehefin

Lansiwyd ein Canllaw Grantiau ychydig yn ôl, gan ei hyrwyddo drwy gyfres o ddigwyddiadau dysgu ar y cyd llwyddiannus iawn ar hyd a lled Cymru. Roedd cyfranogwyr yn gwerthfawrogi cyfle i archwilio rhwystredigaethau cyffredin a dysgu sut roedd cyllidwyr neu dderbynyddion grant eraill yn eu datrys. Roedd galw pendant am ddigwyddiadau pellach, yn enwedig gyda ffocws ar faterion penodol sy'n bwysig i gynulleidfaoedd sector penodol.

Mewn ymateb i'r galw hwnnw, ac i ddilyn ein hadroddiad diweddar 'Rheoli Grantiau yng Nghymru', bwriadwn gynnal dwy seminar arbennig ym mis Mehefin.  Bydd y seminarau hyn ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff mantell y sector gwirfoddol yn eu hardaloedd, a byddant yn canolbwyntio ar adeiladu llwyddiant drwy fynd ati'n effeithiol i fonitro, gwerthuso ac adrodd ar effaith.

Pwy ddylai fynychu?

• Swyddogion Datblygu Cymunedol neu Swyddogion Adfywio Cymunedol Awdurdodau Unedol.
• Swyddogion grantiau cyrff mantell y sector gwirfoddol.

Bydd niferoedd yn gyfyngedig i uchafswm o 30 o bobl.  

Y ffioedd i gyrff cyhoeddus fydd £40 y pen, er y caiff cyfranogwyr o'r sector gwirfoddol wahoddiad i ddod yn rhad ac am ddim.

Pa bryd a ble?  

Gogledd Cymru (Y Rhyl) - Dydd Gwener 15 Mehefin 2012 (10am-3pm)

De Cymru (Caerdydd) - Dydd Gwener 22 Mehefin (10am-3pm)

Noder: Mae'n rhaid cofrestru ar gyfer y digwyddiad yma erbyn Dydd Mawrth 12fed Mehefin

For further information contact: 
Jayne Power on:  02920 320625
or email jayne.power@wao.gov.uk