Banner

2011

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Sir Ceredigion

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar Gyngor Sir Ceredigion sy'n ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor yn gwella ei wasanaethau.

31/01/2011

Yn ei adroddiad gwella blynyddol ar gyfer 2009-10 nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru rai negeseuon pwysig ynghylch y ffordd y mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu gwella ei wasanaethau. Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath, yn dilyn deddfwriaeth newydd ym mis Ebrill 2010, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud trefniadau i wella eu gwasanaethau a'r ffordd maent yn gweithio. Bu'r flwyddyn gyntaf hon yn un o addasu, ac mae'r adroddiad hwn yn fan cychwyn i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiadau mwy cyflawn o'r ffordd y mae cynghorau'n perfformio mewn blynyddoedd i ddod.

Prif neges yr adroddiad oedd bod angen i'r Cyngor newid y ffordd y mae'n rheoli ac yn cyflawni gwelliannau ond mae wedi cydnabod yr angen am newid ac wedi rhoi rhaglen ar waith i drawsnewid ei wasanaethau i fod yn fwy effeithlon ac effeithiol i ddinasyddion. Ceir crynodeb o'r prif gasgliadau isod.

Mae'r Cyngor wedi defnyddio dull gweithredu eithaf traddodiadol dros y blynyddoedd diwethaf; roedd angen i gryfhau ei reolaeth gorfforaethol o feysydd allweddol, gan gynnwys ei bobl a'i brosiectau, ac nid oedd wedi nodi blaenoriaethau clir. Mae'n mynd i'r afael â'r newidiadau angenrheidiol ac yn gwneud cynnydd da â'i raglen trawsnewid.

Mae'n rhaid i'r Cyngor hefyd wynebu heriau economaidd, er bod y toriadau i'r gyllideb yn llai na'r hyn roedd y Cyngor wedi'u disgwyl; amcangyfrifir y bydd angen gwneud £6 miliwn o arbedion dros y tair blynedd nesaf. Mae'r Cyngor wedi cydnabod bod angen iddo newid y ffordd y mae'n gweithio yn sylweddol er mwyn delio â'r heriau ariannol hyn.

Cytunodd y Cyngor ar ei amcanion gwella ym mis Gorffennaf a'u cyhoeddi'n ffurfiol ym mis Medi, ond credwn y dylid eu cyhoeddi yn gynharach y flwyddyn nesaf. Dylai'r Cyngor ei gwneud yn gliriach i'r cyhoedd pa feysydd y mae'n perfformion dda ynddynt a pha feysydd sy'n flaenoriaethau ar gyfer gwella. Mae hefyd angen iddo ddangos yn gliriach sut y bydd ei amcanion gwella o fudd i bobl leol.

Mae'r Cyngor yn wynebu heriau sylweddol i ddatblygu mwy o dai fforddiadwy, anhawster sy'n gyffredin i lawer o gynghorau yng Nghymru. Mae'n blaenoriaethu gwasanaethau i bobl sy'n agored i niwed, yn enwedig mewn perthynas ag oedolion a'r lefelau uchel o oedolion hyn sy'n agored i niwed yn y sir, sy'n briodol iawn o ystyried y gwendidau a nodwyd yn y gorffennol. Mae cynnydd da wedi'i wneud o ran gwella gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion ac mae cydberthnasau â phartneriaid iechyd a phartneriaid eraill wedi parhau i wella. Fodd bynnag, mae angen i'r Cyngor ddangos yn gliriach bod prosesau gwell yn cyflawni canlyniadau gwell i bobl sy'n agored i niwed a defnyddwyr gwasanaethau.

Mae addysg yng Ngheredigion yn dda ar y cyfan gydag enghreifftiau o arferion rhagorol. Mae cyrhaeddiad addysgol yng Ngheredigion yn cymharu'n dda â gweddill Cymru. Nododd Estyn fod gwasanaethau addysg y Cyngor yn cynnwys nodweddion da ym mhob maes a arolygwyd a oedd yn drech na'r diffygion a nododd fod y rhagolygon ar gyfer gwella yn dda. Mae nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion yn broblem fawr ar gyfer y Cyngor; fodd bynnag mae'r Cyngor wedi gweithredu'n gyflym i leihau'r nifer fawr o leoedd gwag mewn ysgolion, ac mae'n gwneud cynnydd da.

Mae diogelu a darparu amgylchedd cynaliadwy yn un o flaenoriaethau'r Cyngor ond mae angen rhagor o wybodaeth a gwybodaeth well arno i ddangos sut y bydd yn cyflawni gwelliant. Mae'r Cyngor ar flaen y gad o ran ailgylchu ac mae'n gweithio gyda chynghorau eraill i ganfod atebion er mwyn gwella ymhellach. Mae problemau'n ymwneud ag erydu arfordirol a llifogydd hefyd yn cael eu blaenoriaethu fel materion o bwysigrwydd hirdymor i'r awdurdod arfordirol hwn er mwyn helpu cymunedau i wrthsefyll llifogydd yn well.

Gall y Cyngor ddangos bod ganddo ddull strategol ar gyfer adfywio. Mae adfywio Aberystwyth yn flaenoriaeth sydd wedi deillio o bryderon am broblemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y mae'r dref yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Gydag arian sylweddol gan Lywodraeth y Cynulliad, mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill i weithredu'r prosiect. Mae'r Cyngor hefyd yn cefnogi gwaith adfywio mewn rhannau eraill o'r sir ac mae angen iddo ddatblygu ffyrdd o ddangos a yw cynlluniau a phrosiectau wedi sicrhau mynediad gwell i wasanaethau ar gyfer holl gymunedau a dinasyddion Ceredigion.

Mae gan Wasanaeth Cynllunio'r Cyngor rôl allweddol o ran cyflawni nifer o amcanion gwella'r Cyngor ac mae'n gwneud cyfraniad pwysig at y rhaglen adfywio. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth sydd ar gael yn rhoi darlun gwael o berfformiad y Gwasanaeth Cynllunio ac mae'n cyfeirio at nifer o feysydd i'w gwella.

Mae datganiadau cyfrifyddu'r Cyngor yn rhoi darlun cywir a theg o drafodion ariannol y Cyngor.