Banner

2011

Mwy o ddewisiadau anodd yn wynebu'r sector cyhoeddus yng Nghymru

Ac mae'r GIG yn wynebu'r her fwyaf oll dros y pedair blynedd nesaf, rhybuddia'r Archwilydd Cyffredinol

14/10/2011

Mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru'n wynebu pwysau ariannol nas gwelwyd ei debyg o'r blaen - gyda gostyngiad o 12.4% (£1.9 biliwn) mewn lefelau ariannu, mewn termau real erbyn 2014-15. Ar yr un pryd, mae'r galw am wasanaethau a'r hyn a ddisgwylir ganddynt yn cynyddu. Yn ei adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn nodi'r heriau sy'n wynebu Cymru nawr a'r rhai a fydd yn ei hwynebu yn y dyfodol ac yn asesu pa mor dda y mae gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn ymateb iddynt, yn ogystal â beth arall y mae angen ei wneud.

Y GIG yng Nghymru fydd yn wynebu'r prawf mwyaf, ar ôl cael y setliad ariannol mwyaf llym yn y DU ac mae'n wynebu bwlch ariannu o tua £440 i £570 miliwn erbyn 2013-14 . Fel y GIG, mae cynghorau Cymru hefyd yn wynebu toriadau ariannol a disgwylir gostyngiad termau real o 7% mewn refeniw gan Lywodraeth Cymru erbyn 2013-14. Er bod y sefyllfa'n waeth mewn mannau eraill yn y DU, bydd toriadau o'r fath yn golygu y bydd rhai o wasanaethau'r cynghorau'n wynebu gwasgfa sylweddol.

Bydd angen i wasanaethau cyhoeddus fod yn realistig am eu cynlluniau i gau'r bylchau ariannu.  Yn benodol, mae'n annhebygol y bydd arbedion effeithlonrwydd yn ddigon ar eu pen eu hunain, yn enwedig yn y byrdymor.

I weld y datganiad llawn ynglyn â lansiad y wefan, dilynwch y ddolen yma

I weld Canllaw i Leihau Costau arlein Swyddfa Archwilio Cymru, dilynwch y ddolen hon

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 - Barn yr Archwilydd Cyffredinol (yn Saesneg yn unig)