Banner

Newyddion

Tai cymdeithasol yng Nghymru yn gwella ond ni fydd targed 2012 yn cael ei fodloni

Archwilydd Cyffredinol yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi a monitro cynnydd a dangos gwerth am arian.

13/01/2012

Mae llawer o denantiaid yng Nghymru wedi gweld gwelliannau mawr i ansawdd eu tai. Ond ni fydd nod gwreiddiol Llywodraeth Cymru y byddaiâ'r holl dai cymdeithasol yng Nghymru yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn diwedd 2012 yn cael ei fodloni am gryn amser. Dyna yw casgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae'r adroddiad yn amlygu gwendidau mewn arweinyddiaeth o ran SATC. Mae'n canfod nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n ddigon cyflym i gefnogi a monitro cynnydd. Nid yw ychwaith wedi rhoi fframwaith effeithiol ar waith i ddangos gwerth am arian o'r buddsoddiad sylweddol mewn gwaith i gyflawni SATC.

Mae'r adroddiad yn defnyddio data cydymffurfio â SATC a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010 ac a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2011, ond mae'n amlygu pryderon am ansawdd rhywfaint o'r data hwnnw. Mae'r data yn dangos y gwnaeth 26 y cant o dai cymdeithasol fodloni SATC yn llawn erbyn mis Mawrth 2010. Fodd bynnag, bodlonodd cyfran fwy o gartrefi rai elfennau o SATC, gyda'r diffyg mwyaf yn safonau ystafelloedd ymolchi a cheginau.

Am gopi llawn o'r datganiad i'r wasg, cliciwch yma

Am gopi o'r adroddiad, cliciwch yma

I weld cyflweliad byr yn sôn am brif ganfyddiadau'r adroddiad, cliciwch yma (fideo Saesneg yn unig)