Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
14/06/2012
Roedd penderfyniadau Llywodraeth Cymru i brynu Gwesty River Lodge gynt yn Llangollen am £1.6 miliwn, ac yn dilyn hynny i ymrwymo i gytundeb prydlesu gyda sefydliad a elwir yn Powys Fadog, yn ddiffygiol ac nid oeddent yn werth da am arian. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Prynodd Llywodraeth Cymru'r cyn-westy ym mis Mawrth 2007 gyda'r diben penodol o hwyluso menter datblygu cymunedol Powys Fadog - sef creu canolfan leol ar gyfer iechyd, gwella a dysgu ac a fyddai'n creu tua 15 o swyddi cynaliadwy llawn amser a rhan amser o fewn tair blynedd.
Fodd bynnag, canfu'r adroddiad heddiw nad ategwyd y pris prynu, sef £1.6 miliwn, gan brisiad llawn, ac awgryma'r dystiolaeth sydd ar gael fod Llywodraeth Cymru wedi talu mwy na gwerth yr eiddo. Ar adeg prynu'r eiddo, nid oedd unrhyw gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Powys Fadog ac nid oedd Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad risg cadarn. Cafodd y problemau eu gwaethygu gan gryn wrthdaro buddiannau ac nid ymatebodd Llywodraeth Cymru mewn ffordd ddigonol i liniaru'r gwrthdaro hwn na sefydlu proses lywodraethu gadarn o ran y mater.
Isod ceir cyfweliad fideo ar yr adroddiad gyda Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr Grwp Swyddfa Archwilio Cymru (yn Saesneg).