Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
19/06/2012
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn - Ymgysylltu â'r Cyhoedd mewn Llywodraeth Leol (PDF)
Mae cynghorau Cymru'n perfformio'n dda o ran gofyn i'r cyhoedd am ei farn ac yn cynnal cryn dipyn o ymarferion ymgysylltu â'r cyhoedd. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, nid yw llawer o ymarferion yn galluogi trigolion i helpu i lywio eu gwasanaethau lleol, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Canfu ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw, fod pob un o'r 22 o gynghorau yng Nghymru yn ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar roi gwybodaeth am wasanaethau lleol i'r cyhoedd ac ymgynghori ag ef. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac ansawdd y gwaith ymgysylltu hwn yn amrywio. Nid yw'r rhan fwyaf o gynghorau wedi ymgorffori gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd yn llawn eto yn eu diwylliant sefydliadol na'u gweithgareddau partneriaeth. Mae prosesau monitro a gwerthuso yn wan, ac anaml iawn y byddant yn rhoi adborth i'r cyhoedd ar effaith eu gwaith ymgysylltu.
Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan bwysig o'r broses ddemocrataidd. Mae'n cynyddu hyder y cyhoedd yng ngweithgarwch llywodraeth leol; yn darparu tystiolaeth fel sail ar gyfer penderfyniadau; yn helpu i roi llais i rannau helaeth o'r gymdeithas; ac yn sicrhau bod adnoddau yn cael eu targedu yn fwy effeithiol.