Banner

Newyddion

NEWYDDION DIWEDDARAF AR BERTHYNAS LLYWODRAETH CYMRU AG AWEMA

03/07/2012

Ysgrifennom yn ddiweddar at Gadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PCC) y Cynulliad Cenedlaethol gyda'r newyddion diweddaraf ar y cynnydd ar ein harolygiad gwerth am arian sy'n ystyried a yw Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, wedi rheoli'i pherthynas ag AWEMA yn briodol i warchod a gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus. Ein bwriad gwreiddiol oedd cyhoeddi'r adroddiad ym mis Mai neu fis Mehefin 2012. Fodd bynnag, roedd yr amserlen honno yn gaeth i nifer o ffactorau. Rydym bellach wedi egluro i Gadeirydd y PCC, yn sgil ein rhaglen o adolygiadau ffeiliau a chyfweliadau sydd wedi bod yn fwy sylweddol na'r disgwyl, ein bod yn disgwyl cyhoeddi'n hadroddiad terfynol ddechrau tymor hydref y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ein gohebiaeth gyda'r Cadeirydd rydym hefyd wedi cymryd y cyfle i ailadrodd cwmpas ein gwaith yn sgil rhai adroddiadau anghywir yn y cyfryngau.

Gellir dod o hyd i'n gohebiaeth ddiweddaraf â Chadeirydd y PCC a'n llythyr meini prawf gwreiddiol ymhlith papurau cyfarfod y PCC ar 3 Gorffennaf 2012