Newyddion
Yr Archwilydd Cyffredinol yn cydnabod bod arwyddion cadarnhaol o ran diwygio'r GIG yn yr hirdymor yn ei adroddiad ynglyn â chyllid iechyd yng Nghymru
Cyflawnodd y GIG yng Nghymru ei dargedau ariannol heriol ar gyfer 2011-12 drwy gyfuniad o arbedion mawr a nodwyd gan gyrff y GIG ac ychydig o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
12/07/2012
Roedd yr arian ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn cynnwys swm ychwanegol o £133 miliwn i bob Bwrdd Iechyd er mwyn mynd i'r afael â phwysau costau'r GIG a £24.4 miliwn o flaendaliadau ar gyfer 2012-13 i bedwar Bwrdd Iechyd yn bennaf er mwyn sicrhau eu bod yn 'mantoli'r gyllideb'.
Bydd effaith y swm hwn o £24.4 miliwn a dalwyd ymlaen llaw i'w theimlo yn 2012-13 a 2013-14. Bydd hyn yn ychwanegu at yr heriau ariannol y bydd y byrddau iechyd hynny yn eu hwynebu yn y dyfodol, ond mae'n atgyfnerthu neges lymach Llywodraeth Cymru ynglyn â phwysigrwydd rheoli costau. Ochr yn ochr â'r gwelliannau diweddar yng ngwaith monitro ac adrodd ariannol cyrff y GIG ac Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn, a'r arbedion o £285 miliwn a nodwyd gan gyrff y GIG yn 2011-12, mae camau yn cael eu cymryd i sicrhau bod cyllid iechyd yn fwy cynaliadwy.
Y Datganiad i'r wasg yn llawn