Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion > Newyddion
Argraffu'r Dudalen
Newyddion
Swyddfa Archwilio Cymru yn Croesawu Dirprwyaeth o Dsieina
20/04/2006
Cafodd tîm o archwilwyr llywodraeth Tsieina gipolwg ar waith eu cydweithwyr yng Nghymru ar 13 Ebrill
Croesawodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, y tîm o saith, oedd wedi teithio i Swyddfa Archwilio Cymru yng Nghaerdydd o ardal Shenzhen yn Tsieina, sy’n cyd-ffinio â Hong Kong. Roedd y grwp yn cynnwys Mr Zhigang Chen, Pennaeth y Swyddfa Archwilio, Mr Jian Ke, Pennaeth Isadran y Swyddfa Archwilio a chynrychiolwyr o Sefydliad Datblygu Tsieina a Chyngres Pobl Shenzhen. Esboniodd staff o Swyddfa Archwilio Cymru ymagwedd y sefydliad tuag at archwilio ac arolygu llywodraeth leol, gyda’i bwyslais cynyddol ar hyrwyddo gwelliannau a lledaenu arferion da. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i gyfnewid barn ar gymaroldeb arferion archwilio Cymreig a Tsieineaidd. Cymerodd y ddirprwyaeth o Dsieina rai copïau o adroddiadau diweddar Swyddfa Archwilio Cymru, gan gynnwys Cod Ymarfer Archwilio ac Arolygu’r Archwilydd Cyffredinol y maent yn ystyried ei gyfieithu i Gantoneg. Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman: “Mae’r ymweliad hwn wedi bod yn gyfle gwych i archwilwyr o ddwy ochr y ddaear i gymharu’r gwahanol ymagweddau tuag at archwiliad cyhoeddus ac i ddysgu o brofiadau ei gilydd. Gobeithiaf fod y tîm o Dsieina wedi gweld bod y daith yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol fel y gwnaethon ni.”

Erthygl flaenorol Erthygl nesaf

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru