Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion > Newyddion
Argraffu'r Dudalen
Newyddion
Fframwaith Contractio
15/06/2006
Crynodeb o'r  ymateb i ymgynghoriad yr Archwilydd Cyffredinol.
Cafodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, nifer fawr o ymatebion i’w ymgynghoriad ar ei Strategaeth Penodiadau a Chontractio. Mae’r ddogfen yn gosod allan sut y dylai gwaith archwilio gael ei becynnu rhwng Swyddfa Archwilio Cymru a’r cwmnïau archwilio ar ôl Ebrill 2007.

Amlinellir crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad isod. Yn dilyn y broses ymgynghori hon, ac yn unol â chanllawiau caffael yr UE, mae hysbysiadau contractio bellach wedi eu cyhoeddi. Gwahoddir cwmnïau archwilio i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb mewn tendro am waith erbyn 23 Mehefin.

Canlyniad yr Ymgynghoriad:

Manylir isod ar y pum cwestiwn a gyflwynwyd i’w hystyried ynghyd â chrynodeb o safbwyntiau rhanddeiliaid ac ymateb yr Archwilydd Cyffredinol iddynt.

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno y dylai’r Archwilydd Cyffredinol barhau i gynnal marchnad gymysg o gyflenwad am gyfundrefn archwilio cost isel, ansawdd uchel, wedi ei seilio ar farchnad sefydlog o gyflenwyr?

Cytunai pawb â hyn, ar yr amod mai cwmnïau addas yn unig a gyflogir, gan fod ansawdd, parhad a chysondeb yn bwysig. Ansawdd yw’r ffactor allweddol – ond nid am unrhyw bris.

Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn croesawu’r gefnogaeth a roddir gennych i’r farchnad gymysg. Ansawdd fydd yn pwyso fwyaf ymysg yr holl ffactorau a ystyrir bob tro yn y cam cyn cymhwyso ac wrth asesu tendrau’r cyflenwyr.

Cwestiwn 2: Pa mor bwysig yw hi i chi fod yr Archwilydd Cyffredinol yn ceisio ymwneud â nifer ddigonol o gwmnïau er mwyn cynnig elfen o gystadleuaeth wrth ddarparu gwasanaethau archwilio?

Cytunai bron pawb fod elfen o gystadleuaeth yn bwysig. Mae cyrff llywodraeth leol yn croesawu cyfranogiad gan gwmnïau â chyfundrefn yr Archwilydd Cyffredinol ond mae hyn yn fater newydd i gyrff llywodraeth ganol. Pwysleisiwyd yr angen i gael gwerth am arian a chael cystadleuaeth agored ac roedd y potensial i’r cwmnïau allu ychwanegu gwerth at gyfundrefn yr Archwilydd Cyffredinol yn cael ei gydnabod.

Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn sicrhau y bydd yn gallu dewis o blith digon o gyflenwyr archwilio wrth wneud penodiadau yn y dyfodol neu wrth gyflogi contractwyr  - cyn belled â bod digon o geisiadau o ansawdd addas wedi dod i law. Ni fydd union nifer y cwmnïau y bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn llunio contractau gyda hwy yn hysbys tan yr hydref pan fydd y broses gaffael wedi ei chwblhau. Bydd y broses honno yn dilyn y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus diweddaraf er mwyn sicrhau cydymffurfio â rheolau cystadleuaeth y CE.

Cwestiwn 3: Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn ymgynghori ar wneud penodiadau a chyflogi contractwyr, ond yn statudol, ganddo ef fydd y ‘gair olaf’ ar benodi/cyflogi archwilwyr. I ba raddau yr hoffech gael eich ymgynghori ar gynigion cyffredinol yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer gwneud penodiadau neu gyflogi contractwyr?

Gofynnai’r rhan fwyaf o’r ymatebion am fwy o ymwneud gan y cyrff archwilio pan gynigir penodiadau yn y dyfodol er bod cydnabod cyffredinol y byddai rhaid i’r ‘gair terfynol’ fod gan yr Archwilydd Cyffredinol. Lleiafrif yn unig a oedd am ‘ychydig neu ddim ymgynghori’.

Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn parhau i ymgynghori gyda chyrff llywodraeth leol cyn gwneud penodiadau: mae ganddo’n wir ddyletswydd statudol i wneud hynny o dan Adran 14(7) Deddf Archwiliad Cyhoeddus (Cymru) 2004. Er nad oes rheidrwydd arno i ymgynghori â chyrff archwilio’r GIG na rhai llywodraeth ganol, gan mai ef yw’r archwilydd arnynt hwythau, mae’n  ystyried unrhyw wybodaeth a gyflwynir gan y cyrff hyn os oes unrhyw amgylchiadau a allai rwystro Partner Cyflogedig newydd rhag ymgymryd â gwaith archwilio ar ei ran  (megis gwrthdaro buddiannau). Bydd Partneriaid Cyflogedig newydd (sy’n gweithredu ar ran yr Archwilydd Cyffredinol) ac Archwilwyr Penodedig mewn llywodraeth leol hefyd yn cynnal cyfarfodydd cyflwyno gyda’u rhagflaenwyr ac yn gweithio gyda hwy i sicrhau trosglwyddo esmwyth.  Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn cydnabod y bydd sawl rhanddeiliad yn hoffi cael mwy o wybodaeth ynghylch pam mae rhai penodiadau unigol yn cael eu cynnig ac ystyrir hyn pan fydd cynigion yn codi yn y dyfodol.

Cwestiwn 4: I ba raddau y byddai penodiadau ‘hyblyg’ (h.y. lle bydd staff Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal ymchwiliad a gwaith archwilio GaA gyda chwmni yn cynnal gwaith archwilio cyllidol – neu fel arall) yn ddeniadol i chi?

Pan gafwyd sylwadau ganddynt, roedd naw o’r ymatebwyr yn gweld penodiadau hyblyg yn ddeniadol a saith arall yn mynegi diddordeb ynddynt. Fodd bynnag, nid oedd un ar hugain o’r ymatebwyr yn croesawu penodiadau o’r fath. Roeddent yn mynegi pryderon am ddyblygu posibl ar ymdrechion, cynnydd yng nghymhlethdod yr archwilio, ac ansawdd gwaeth yr argymhellion os nad oedd neb yn gallu cael trosolwg gwybodus o’r corff i’w archwilio.

Ymateb yr Archwilydd Cyffredinol yw y bydd yn dal i fonitro’r prosiect peilot ‘cydbenodiadau’ sydd ar waith ar hyn o bryd gan nodi’r gwersi a ddysgir ganddo. Bydd dichonoldeb penodiadau ‘hyblyg’ yn y dyfodol hefyd yn dibynnu ar geisiadau cyflenwyr, cost-effeithiolrwydd trefniadau gweithio o’r fath ac ar awydd y cyrff a archwilir i’w cael.

Cwestiwn 5: Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn ystyried ceisiadau gan gwmnïau ar sail ansawdd, capasiti, gwerth ychwanegol, y gallu a’r parodrwydd i weithio’n hyblyg mewn partneriaeth â Swyddfa Archwilio Cymru, a’r pris (os yw’n ymarferol o ystyried maint y farchnad). A oes yna feini prawf eraill y teimlwch y dylid eu cynnwys?

Ymysg y meini prawf a enwyd roedd profiad o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, y gallu i weithio’n ddwyieithog a bod yn hygyrch ac ar gael ar draws Cymru gyfan. Ailadroddodd llawer o’r rhanddeiliaid yr angen i sicrhau ‘gwaith archwilio o ansawdd da am bris sy’n cynrychioli gwerth da’.

Mae’r Archwilydd  Cyffredinol yn cadarnhau y bydd ffactorau sy’n neilltuol i Gymru yn cael eu hystyried cyn i gyflenwyr gael eu gwahodd i dendro ac wedyn wrth asesu’r cynigion terfynol, a hefyd y pris a ystyrir ar adeg y tendr.  Ar gyfer cyrff llywodraeth leol, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn parhau i osod graddfeydd ffioedd gan ei fod dan ymrwymiad statudol i ymgynghori - fel y gwêl yn addas - gyda chymdeithasau llywodraeth leol a chyrff cyfrifwyr (adran 20(2) Deddf Archwiliad Cyhoeddus (Cymru)). Bydd yn parhau i ymgynghori â chyrff gwasanaeth iechyd ar sail wirfoddol, a phan fydd cwmni yn gweithredu ar ei ran, bydd ei Gyfarwyddwr Cyswllt yn adolygu’r ffi a gynigir ar gyfer y corff dan sylw.

Yn olaf, gallaf ddweud wrthych y cafodd yr hysbysiadau contractau ar gyfer gwaith archwilio ar y prif gyrff a’r cynghorau cymuned/tref eu cyhoeddi ganol Mai. Mae’r trafodaethau gyda’r cyflenwyr ar ymestyn y contractau presennol lle bo angen hwythau yn cael eu dwyn i ben. 

 

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600

© Swyddfa Archwilio Cymru