Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion > Newyddion
Argraffu'r Dudalen
Newyddion
Gall cynghorau cymuned a thref wella'u trefniadau rheoli ariannol drwy gymhwyso pedair gwers arfer da
30/06/2009
Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyflwyno canllaw arfer da cam wrth gam ar drefniadau llywodraethu a rheoli ariannol ar gyfer chynghorau Cymuned a Thref
 PDF icon Adroddiad - Cliciwch yma i lawrlwytho’r adroddiad - Cynghorau cymuned:
Adroddiad Llywodraethu Da – Arfer Da
  Cliciwch yma i weld y datganiad i’r wasg
  Cysylltiadau

Good Governance Standard for Public Services, CIPFA – Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

Governance and accountability for Local Councils: A Practitioners Guide 2008 (Wales), Un Llais Cymru / Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol

Canllaw y Cynghorydd Da ar gyfer Cynghorwyr Cymuned a Thref
Llywodraeth Cynulliad Cymru

Canllawiau ar Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru), Llywodraeth Cynulliad Cymru

Governance Toolkit for Parish and Town Councils, Cymdeithas Ysgrifenyddion a Chyfreithwyr Cynghorau

Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae safon y trefniadau rheoli ariannol yng nghynghorau cymuned a thref Cymru yn amrywio. Daw adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol i'r casgliad bod nifer o wendidau cyffredin yn bodoli mewn cynghorau ledled Cymru sy'n peri mwy o risg o golledion i gynghorau unigol. Er mai nifer fach o achosion o dwyll a gofnodir gan Gynghorau Cymuned yng Nghymru, canfu'r adroddiad eu bod yn sylweddol ar gyfer y cynghorau yr effeithiwyd arnynt, a'u bod yn cael effaith andwyol ar hyder y cyhoedd yn y cynghorau.   Mae cynghorau cymuned a thref yn gweithredu ar lefel gymunedol. Maent yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau ac yn darparu cymorth gwerthfawr i grwpiau a chymdeithasau gwirfoddol lleol. Ceir tua 8,000 o gynghorwyr cymuned yng Nghymru sy'n rhoi eu hamser yn ddi-dâl ac yn chwarae rôl werthfawr yn y gymuned. Fodd bynnag, caiff nifer o gynghorau broblemau o ran llenwi swyddi yn ystod etholiadau, ac etholir nifer o gynghorwyr heb wrthwynebydd yn eu herbyn. Dim ond un cyflogai cyflogedig sydd gan y rhan fwyaf o gynghorau, sef y clerc neu'r swyddog ariannol, sy'n gweinyddu materion y cyngor a'i ddyletswyddau ariannol.

Cliciwch yma am y datganiad i’r wasg cyflawn

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru