|
Mae rheolaethau ariannu ar gyfer darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac ansawdd y ddarpariaeth ddysgu wedi gwella o ganlyniad i ddull rheoli archwilio a pherfformiad cryfach Llywodraeth y Cynulliad, dywed adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Dengys adroddiad dilynol heddiw fod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud cynnydd da i fynd i'r afael â'r gwendidau cynharach mewn rheolaethau ariannol o ran Dysgu Seiliedig ar Waith. Yn 2004-05 roedd gan draean o'r holl ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith wendidau sylweddol yn eu systemau rheolaeth ariannol. Ers hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi atgyfnerthu ei ddull o archwilio darparwyr ac yn 2008-09 dim ond un y cant o ddarparwyr oedd â gwendidau sylweddol yn eu systemau.
Dengys adroddiad heddiw hefyd y cafwyd gwelliannau mawr yn ansawdd y ddarpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae hyn yn rhannol am i Lywodraeth y Cynulliad osod safonau cadarnach pan gyhoeddodd gontractau newydd yn 2007, ac atal arian i rai o'r darparwyr gwannaf. Mae'r ansawdd gwell hefyd yn rhannol o ganlyniad i drefniadau rheoli perfformiad llymach Llywodraeth y Cynulliad sy'n cosbi darparwyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ansawdd.
Cliciwch yma am y datganiad i’r wasg cyflawn
|