Cod yr Archwilwyr

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi paratoi cod ymarfer sy'n rhagnodi'r ffordd y dylai archwilwyr gyflawni eu swyddogaethau, ac yn ymgorffori'r hyn sy'n ymddangos i'r Archwilydd Cyffredinol yn arfer proffesiynol gorau. Mae'r Cod yn rhan allweddol o reoleidd-dra'r Archwilydd Cyffredinol o archwiliad cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r Cod wedi ei ddiwygio'n ddiweddar a chafodd ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 23 Mawrth 2010.

Cliciwch yma am gopi o'r Cod Ymarfer Archwilio

Lle mae ansicrwydd ynghylch ystyr neu bwriad, mae unigolion yn cael eu hannog i e-bostio'r brif  gyswllt allweddol ar gyfer y Cod ar code@wao.gov.uk

Yn y Cod, gwnaed cyfeirnod i nifer o ffynonellau ychwanegol o wybodaeth y gellir eu gweld drwy ddilyn y cysylltiadau canlynol:

Prif awdurdodau statudol ar gyfer swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i archwilwyr/harchwilwyr penodedig

Polisi Gwybodaeth, Cynllun cyhoeddi a Pholisi ar ddiogelwch gwybodaeth Swyddfa Archwilio Cymru

Datganiad o gyfrifoldebau Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r cyrff a archwilir ganddo/i

Datganiad o gyfrifoldebau'r archwilwyr a benodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r cyrff y maent yn eu harchwilio

Datganiad o gyfrifoldebau archwilwyr a chynghorau lleol bach

Cod ymarfer paru data Archwilydd Cyffredinol Cymru