Menter Twyll Genedlaethol

Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn ymarfer cydweddu data sy'n helpu cyrff cyhoeddus i ganfod ac atal twyll a gordaliadau o'r pwrs cyhoeddus ledled y DU.

Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn paru data ar draws sefydliadau a systemau er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau. Ers iddi ddechrau ym 1996, mae ymarferion y Fenter wedi arwain at ganfod ac atal gwerth mwy nag £16 miliwn o dwyll a gordaliadau yng Nghymru a £6939 miliwn ledled y DU.

Arweiniodd Menter Twyll Genedlaethol 2010-11 at ganfod ac atal gordaliadau gwerth £6 miliwn. Cymrodd 43 o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru ran yn yr ymarfer, gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau'r heddlu, awdurdodau tân, byrddau prawf, cyrff y GIG, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Swyddfa Archwilio Cymru a archwilwyr sector cyhoeddus eraill.

Ers dechrau'r Fenter Twyll Genedlaethol ym 1996, mae wedi llwyddo i ddileu llawer o dwyll hirsefydlog o werth uchel. Dengys yr ymarfer diweddaraf fod y Fenter Twyll Genedlaethol yn adnodd gwrth-dwyll effeithiol iawn o hyd. Mae adroddiadau yr Archwilydd Cyffredinol ynglyn â'r Fenter yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr ymarfer, gan gynnwys crynodeb o'r canfyddiadau a'r astudiaethau achos sy'n rhoi darlun o'r mathau o dwyll a gwallau o ran gordaliadau a gafwyd ym mhob ymarfer.

Cynhelir y Fenter Twyll Genedlaethol bob dwy flynedd, ac am ragor o wybodaeth am yr ymarfer nesaf, cysylltwch â Kate Febry (Rheolwr Menter Twyll Genedlaethol SAC) ar 029 2032 0616 neu nfi@wao.gov.uk