Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
Dylir defnyddio'r cyfleuster uwchlwytho electronig diogel i gyflwyno'r data sydd wedi ei amddiffyn gan gyfrinair, yn uniongyrchol o gyfrifiaduron lleol. Cynhwysir y cyfleuster hwn o fewn rhaglen gwe ddiogel y Fenter Twyll Genedlaethol. Mae'n cynnwys adnodd amgryptio Haenau Socedi Diogel 128 darn ac mae modd diogelu cyfrinair. Cyn lawrlwytho data, dylir cyfeirio at y cyfarwyddiadau lawrlwytho data.
Erbyn hyn, dyma'r unig ffordd dderbyniol o gyflwyno data i'r Fenter Twyll Genedlaethol. Os defnyddir unrhyw ddull cyflwyno arall mae'n bolisi gennym i roi gwybod i'r Cyfarwyddwr Cyllid bod data wedi'i roi mewn perygl heb fod angen.
Fel rhan o'n hymrwymiad i gadw eich data yn ddiogel, yn unol ag arfer da wrth drin data personol, mae hi'n ofynnol arnoch chi i ddiogelu pob set data â chyfrinair wedi iddo gael ei echdynnu o'r systemau perthnasol. Gweler canllaw y Comisiwn Archwilio am sut i ddiogelu data â chyfrinair am gymorth pellach. Os nad yw data yn cael ei amddiffyn gan gyfrinair cyn cael ei gyflwyno, mae'n bolisi gennym i roi gwybod i'r Cyfarwyddwr Cyllid bod data wedi'i roi mewn perygl heb fod angen.
Mae amddiffyn eich hunain ar-lein y Comisiwn Archwilio yn rhoi canllawiau ar ddefnyddio rhaglen gwe ddiogel y Fenter.
Os oes angen mwy o ganllawiau arnoch ar uwchlwytho data i we-adnodd y Fenter neu ar echdynnu, lawrlwytho neu gyflwyno data, cysylltwch â Chanolfan Ddata'r Fenter (Synectics Solutions Ltd) drwy e-bost (helpdesk@nfi.gov.uk) neu ffoniwch 0845 345 8019.
(Mae'r dolenni allanol yn Saesneg yn unig)