Yr Amgylchedd

Rhaglen diogelwch ar y ffyrdd

Nwy Prydain

01/01/2008

Ym mis Tachwedd 2006, penderfynodd y cwmni ddatblygu rhaglen diogelwch ar y ffyrdd gyda'r nod o leihau nifer a chostau digwyddiadau a gwella effeithlonrwydd tanwydd ei yrwyr. Gobeithiwyd hefyd y byddai hyrwyddo arferion gyrru diogel yn y gwaith yn ymestyn i yrru preifat.

Mae'r cyflenwr nwy a thrydan Nwy Prydain yn gweithredu tua 15,000 o gerbydau yn y DU. Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n gwario tua £7.7 miliwn y flwyddyn ar atgyweirio ei fflyd ar ôl damweiniau traffig ar y ffyrdd a £14 miliwn ar danwydd.

Ym mis Tachwedd 2006, penderfynodd y cwmni ddatblygu rhaglen diogelwch ar y ffyrdd gyda'r nod o leihau nifer a chostau digwyddiadau a gwella effeithlonrwydd tanwydd ei yrwyr. Gobeithiwyd hefyd y byddai hyrwyddo arferion gyrru diogel yn y gwaith yn ymestyn i yrru preifat.

Mae'r cwmni wedi datblygu achos busnes pum mlynedd ar gyfer gwella diogelwch ei yrwyr a bydd y rhaglen yn costio tua £1.1 miliwn.

Mae'r rhaglen yn cynnwys y camau gweithredu canlynol: 

  • monitro tanwydd yn fanwl gydag adborth a chyngor ymarferol i yrwyr;
  • dadansoddiad manwl o ddigwyddiadau;
  • technoleg cyfyngu cyflymder ar bob fan newydd gan gyfyngu eu cyflymder i 70 mya;
  • menter diogelwch gyrwyr ifanc;
  • asesiad risg gyrrwr aml-gyfrwng;
  • cynllun Hawl i Yrru lle mae pob cyflogai sy'n gyrru ceir cwmni neu eu cerbyd eu hunain yn y gwaith, yn llofnodi Addewid Gyrru'n Ddiogel sy'n caniatáu iddynt yrru at ddibenion gwaith.

Yn seiliedig ar ffigurau ceidwadol, awgryma'r cwmni mai dwy flynedd yn unig yw cyfnod ad-dalu'r rhaglen.

Rhwng 2005 a 2007 mae Nwy Prydain wedi lleihau nifer y gwrthdrawiadau y mae ei yrwyr yn rhan ohonynt 14.6 y cant ac wedi lleihau cyfanswm ei gostau yn sgîl digwyddiadau i ymhell dros £300,000.

Yn ogystal â'r gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd a gwelliannau ariannol, disgwylir i'r rhaglen hefyd helpu Nwy Prydain i leihau ei ôl-troed carbon drwy ddefnyddio cerbydau'n well a gyrru sy'n fwy effeithlon o ran tanwydd.

Enw cyswllt: Jon York
Swydd: Rheolwr Gweithrediadau Fflyd
Ffôn: 07979 566647 
Ebost: jon.york@service.britgas.co.uk
Cyfeiriad: Millstream
Maidenhead Road
Windsor
Berkshire
SL4 5GD