Hamdden a diwylliant

Alban wedi mynd ati mewn ffordd integredig i wella gweithgarwch corfforol o dan arweiniad y sector iechyd

Scottish Executive

01/06/2007

Er mwyn cynyddu'r lefelau o weithgarwch corfforol yn yr Alban, cyhoeddodd Gweithrediaeth yr Alban strategaeth, Let's make Scotland more active, yn 2003. Fel Dringo'n Uwch, roedd y ddogfen yn cydnabod potensial cyfraniad gweithgarwch corfforol nid yn unig tuag at wella iechyd, ond hefyd fel modd i gyflawni polisïau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a chymunedol pwysig.

Roedd Gweithrediaeth yr Alban yn cydnabod nad oedd yr un adran, sefydliad nac asiantaeth gyda dyletswydd glir am weithredu'r Strategaeth, a bod gweithgarwch corfforol wedi bod yn 'gyfrifoldeb pawb a neb' a bod angen datblygu fframwaith ar gyfer cydlynu gwaith ar fyrder ar lefel genedlaethol a lleol fel ei gilydd. Er mwyn ymdrin â'r diffyg cydlynu, argymhellodd y Strategaeth y dylid creu swydd barhaol cydlynydd gweithgarwch corfforol cenedlaethol, a sefydlu grwp cenedlaethol i gydlynu gweithgarwch corfforol gydag aelodau o nifer o adrannau ac asiantaethau cenedlaethol. Dylai'r grwp hefyd gynnwys uwch gynrychiolwyr sy'n gallu gwneud penderfyniadau ynglyn â sut y defnyddir adnoddau a sut y gweithredir y Strategaeth.

Bu'r Cydlynydd Gweithgarwch Corfforol Cenedlaethol yn ei swydd am y pedair blynedd ddiwethaf, ac mae wedi ei leoli yn Adran Iechyd Gweithrediaeth yr Alban. Nod y swydd yw cydlynu gweithgarwch ar draws adrannau a sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn ystyriaeth berthnasol ym mhob maes polisi perthnasol. Mae rôl y Cydlynydd hefyd yn cynnwys nodi sut y gall yWeithrediaeth gefnogi a chydweithio â'r holl asiantaethau, grwpiau a sefydliadau sy'n helpu i gynyddu lefelau gweithgarwch.

Ategir y broses o weithredu'r strategaeth gweithgarwch corfforol yn ogystal gan yr Asiantaeth Gwella Iechyd Cenedlaethol. Mae'r Asiantaeth yn cynnwys nifer o swyddi sy'n ymwneud yn benodol â gweithgarwch corfforol yn cynnwys Cynghorydd Iechyd Cyhoeddus (sy'n gyfrifol am werthuso a chyflwyno tystiolaeth), Rheolwr Rhaglenni (sy'n gyfrifol am ddatblygu ac arwain rhaglenni sy'n ymwneud â gweithgarwch corfforol), Cydlynydd y Gynghrair Gweithgarwch Corfforol (sef menter newydd a gynlluniwyd i annog rhannu arfer da a thystiolaeth), Cynghorydd Dysgu a Datblygu (sy'n gyfrifol am weithredu Cynllun Datblygu'r Gweithlu Gweithgarwch Corfforol Cenedlaethol; sef y cyntaf o'i fath yn y byd) a Swyddog Datblygu Cenedlaethol sydd wedi'i leoli o fewn Uned hyrwyddo Ysgolion Adran Iechyd yr Alban. Mae'r Cydlynydd hefyd yn cefnogi gwaith y Cyngor Gweithgarwch Corfforol Cenedlaethol.

Sefydlwyd y Cyngor i:

  • gynnig cyngor i'r Weithrediaeth ar weithredu'r Strategaeth Gweithgarwch Corfforol Genedlaethol (2003);
  • fod yn fforwm ar gyfer datblygu syniadau newydd;
  • cael cylch gwaith i'r Alban gyfan i gasglu, dadansoddi a rhoi cyngor;
  • cynnal neu gomisiynu (trwy'r Ysgrifenyddiaeth) gwaith ar bynciau sydd o bryder neu berthnasedd arbennig i'r Alban;
  • cynghori ar anghenion o ran gwybodaeth ac ymchwil;
  • cynghori ar ystod eang o bolisïau a fydd yn lleihau effaith anweithgarwch corfforol ar iechyd.

Sefydlwyd y Cyngor am gyfnod o ddwy flynedd i ddechrau. Mae'r cyfnod hwn ar ben bellach, ac fel y cyfryw mae cylch gwaith y Cyngor yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.

Swydd: Cydlynydd Gwethgareddau Corfforol Cenedlaethol
Ffôn: 08457 741 741 
Ebost: ceu@scotland.gsi.gov.uk