Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:

Bob blwyddyn, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cynnal nifer o adolygiadau arbennig i hyrwyddo gwelliant. Mae un o'r adolygiadau hyn yn ymwneud ag addysg plant sy'n derbyn gofal. Rydym yn ymchwilio i weld a yw'r cymorth a roddir i blant sy'n derbyn gofal i wella eu haddysg yn gwella a byddwn yn cyhoeddi adroddiad a gaiff ei ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol a chynghorau lleol.
Ar gyfer yr arolygiad hwn, rydym yn gwahodd gofalwyr maeth a phlant sy'n derbyn gofal i roi eu barn mewn dwy arolwg. Bydd hyn yn hysbysu ein archwiliad ac efallai y caiff ei gynnwys ynddo.
Mae archwiliad gofalwyr maeth yn cael ei drefnu gyda chefnogaeth Rhwydwaith Maethu.
Cliciwch yma ar gyfer arolwg gofalwyr
Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg
Byddem hefyd yn hoffi clywed barn plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sydd rhwng 10 a 18 oed. Rhowch y daflen amgaeedig i'r rhai rydych yn gofalu amdanynt os ydynt yn 10 oed neu'n hyn. Mae'r daflen yn eu hannog i roi eu barn ar wefan arbennig yn www.schoolworkingforyou.info. Ni ofynnir iddynt roi eu henw nac unrhyw wybodaeth amdanynt hwy eu hunain, eu gofalwyr na'u hysgol. barn.
Os nad ydych yn ofalwr maeth neu'n edrych ar ôl plant, ond eich bod â barn ar y mater hwn yr hoffech ei rannu, ysgrifennwch atom:
Rheolwr Prosiect Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal
Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ
Neu ebostiwch info@wao.gov.uk