Gwahoddwyd aelodau'r cyhoedd i chi rannu eu safbwyntiau a’u profiadau o’r gwasanaeth ambiwlans yn uniongyrchol gyda’r Archwilydd Cyffredinol.
Cynhaliwyd cyfres o wrandawiadau ledled Cymru yn y lleoliadau isod.
| Dyddiad |
Lleoliad |
Amser |
| 10 Awst |
Neuadd Brangwyn - Abertawe |
1730 |
| 11 Awst |
Canolfan Casnewydd - Casnewydd |
1400 |
| 14 Awst |
Canolfan Gynadledda'r Pafiliwn - Llandrindod |
1700 |
| 17 Awst |
Prifysgol Bangor - Bangor |
1330 |
| 21 Awst |
Canolfan Halliwell, Coleg y Drindod - Carmarthen |
1300 |
| 22 Awst |
Gwesty'r Marriott, Lôn y Felin - Caerdydd |
1700 |
| 05 Medi |
Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru, Wrecsam |
1630 |
| 07 Medi |
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - Aberystwyth |
1630 |
Gofynnir i aelodau’r cyhoedd a hoffai fynychu gwrandawiad ond sydd angen darpariaeth ar gyfer iaith ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg, anfon neges e-bost at info@wao.gov.uk o flaen llaw.
Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cyfarfod â phartïon eraill trwy gydol yr ymchwiliad, megis gweithwyr a rheolwyr yn y maes iechyd. Os hoffech gyfarfod â thîm yr ymchwiliad, cysylltwch â ni fel a ganlyn:
Yn ysgrifenedig
Gallwch gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig gan ddefnyddio ein ffurflen electronig
Danfonwch e-bost at info@wao.gov.uk
Neu, gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad canlynol: Ymchwiliad Ambiwlans Cymru, FREEPOST RRBH-GZXC-XGHC, 2-4 Park Grove, Caerdydd, CF10 3PA
Ar y ffôn
Os hoffech siarad ag aelod o’r tîm, ffoniwch 029 2026 0260
Dychwelyd i'r brif dudalen
|