|
Pam y cynhelir yr Ymchwiliad hwn?
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r 2.9 miliwn o drigolion Cymru ac mae'n cyflogi tua 2,500 o staff. Ym mis Gorffennaf 2006, oherwydd y pryderon amlwg ynglyn â gweithrediad yr Ymddiriedolaeth, pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid cynnal Ymchwiliad cyhoeddus i'r gwasanaeth ambiwlans. Wedi hynny, gan fod yr Archwilydd Cyffredinol wedi nodi y byddai'n fodlon cynnal yr ymchwiliad o dan ei bwerau presennol petai'n cael gwahoddiad i wneud hynny, penderfynodd y Cynulliad wahodd yr Archwilydd Cyffredinol i wneud hynny.
Beth fydd maes yr ymchwiliad?
Bydd yr Ymchwiliad yr ymchwilio darbodusrwydd, effeithiolrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd yr Ymddiriedolaeth o'i hadnoddau. Bydd yn ystyried effeithiolrwydd safonau perfformiad, strwythurau, materion staffio, pwysau ariannol ac adnoddau, ynghyd ag unrhyw faterion eraill perthnasol. Bydd hefyd yn ystyried y goblygiadau ar gyfer y dyfodol ac yn gwneud argymhellion yn unol â hynny. Bydd y cwestiynau manwl y bydd yr ymchwiliad yn mynd i'r afael â hwy yn ymddangos ar y wefan hon unwaith y'i cwblheir hwy, a bydd gan y cyhoedd y cyfle i wneud sylwadau ynglyn â'u priodoldeb yn y gwrandawiadau cyhoeddus neu'n ysgrifenedig.
Pa bwerau sydd gan yr Archwilydd Cyffredinol?
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cynnal yr adolygiad hwn o dan ei bwerau presennol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Mae'r pwerau hyn yn rhoi mynediad iddo i gofnodion yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth y Cynulliad. Bydd yr ymchwiliad yn ymchwiliad llawn a bydd yn cynnwys gwrandawiadau cyhoeddus, ond nid yw'n ymchwiliad cyhoeddus ffurfiol o dan y Ddeddf Ymchwiliadau. Byddai hynny'n cymryd llawer yn hirach a byddai'r gost yn cynyddu'n sylweddol.
Pwy fydd yn rhoi tystiolaeth yn ystod yr Ymchwiliad?
Bydd yr Ymchwiliad yn ystyried tystiolaeth o ystod eang o bobl a sefydliadau. Rhoddir y cyfle i aelodau'r cyhoedd fynegi eu safbwyntiau yn ystod cyfres o wrandawiadau cyhoeddus. Bydd yr Archwilydd Cyffredinol hefyd yn cynnal cyfarfodydd a chyfweliadau gyda staff rhengflaen, rheolwyr, cleifion, perthnasau, gwasanaethau brys eraill a sefydliadau ac unigolion perthnasol eraill.
Pwy fydd yn cefnogi'r Archwilydd Cyffredinol yn yr Ymchwiliad hwn?
Cefnogir yr Ymchwiliad gan dîm o arbenigwyr ariannol ac arbenigwyr perfformiad o Swyddfa Archwilio Cymru, ac wedi'i integreiddio'n agos â'r adolygiad arbennig o'r ymddiriedolaeth a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Mai.
Pryd fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi?
Mae Jeremy Colman yn gobeithio cyhoeddi adroddiad yn yr hydref. Mae amserlen gaeth yn angenrheidiol i gwblhau'r gwaith mewn digon o amser i gefnogi gwelliannau amserol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn amlygu'r hyn sy'n gweithio'n dda yn yr ymddiriedolaeth a'r hyn nad yw'n gweithio'n dda. Bydd yn cynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer gwella. Yna efallai bydd Jeremy Colman yn dewis cynnal adolygiad dilynol yn y dyfodol, i archwilio p'un a weithredwyd ei argymhellion a ph'un a wnaethpwyd gwelliannau.
Dychwelyd i'r brif dudalen
|